Caer Arianrhod
Ynys fechan greigiog oddi ar arfordir Gwynedd, Cymru, ydy Caer Arianrhod. Saif tua hanner y ffordd rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle, a thua 1 km o'r lan. Mae'r ynys hon yn ymddangos pan fydd y llanw'n mynd allan yn unig. Er i rai honni eu bod wedi gweld ffurfiant waliau ac ati yno, y gred gyffredinol yw bod y safle'n gwbl naturiol.
Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.06464°N 4.343001°W |
Cod OS | SH431545 |
Cysylltir yr enw â chwedl Math fab Mathonwy, sef y bedwaredd gainc o'r Mabinogi. Yn y chwedl hon mae gan Arianrhod gaer ac mae'r dewin Gwydion fab Dôn yn ymweld â'r gaer mewn llong, gan ddwyn ei nai Lleu Llaw Gyffes, mab Arianrhod, i gyfarfod ei fam yno.
Mae "Caer Arianrhod" hefyd yn cael ei ddweud am y stribed gwyn o sêr a welir fin nos ar draws yr awyr, sef y Llwybr Llaethog.
Roedd gan y grŵp Bando (prif leisydd: Caryl Parry Jones) gân yn dwyn y teitl "Nos yng Nghaer Arianrhod" ar eu halbwm Shampŵ.