Caer Bentir Caerfai
Caer bentir yw Bryngaer Caerfai, sef math o fryngaer, a godwyd yn Oes yr Haearn, ac a leolwyd ar bentir Bae Caerfai, 1.3km i'r de-ddwyrain o ddinas Tyddewi, Sir Benfro. Fe'i gelwir weithiau'n fryngaer Penpleidiau, ond yr enw ar ynys gyfagos yw Penpleidiau. Cofrestrwyd y fryngaer fel heneb gyda'r NPRN 305396.[1]
Math o gyfrwng | caer bentir |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1000 CC |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Benfro |
Mae'n bosibl i'r gaer gael ei chodi gan y llwyth Celtaidd lleol, sef y Demetae. Mae'r gaer yn anghyffredin iawn gan fod iddi fur amddiffynnol o bedwar clawdd anferthol 100 metr o hyd, sy'n gorwedd yn gyfochrog; mae tair o'r ffosydd yn 3.5m o uchder. Saif y fynediad ar ochr ddwyreiniol y gaer.
Mae'r gaer mewnol oddeutu 100 metr wrth 120 metr, ac ers eo chodi ceir rhan sydd wedi ei bwyta gan y môr. Ceir gwaddodion cyfoethog yn y creigiau o dan y fryngaer, a chredir i breswylwyr y gaer durio i fewn i'r graig er mwyn cael y creigiau hyn, ond yr un pryd yn rhoi help llaw i'r erydu.
-
Caerfai o Ben y Cyfrwy (hy o'r Gorllewin)
-
Y rhan sy'n erydu: ar y chwith mae'r amddifynfeydd ac ar y dde, y gaer
-
Rhai o'r ffosydd, gan edrych i gyfeiriad y Dwyrain
-
Olion erydiu, sy'n gwahanu'r cloddiau (cefndir) a'r gaer ei hun (blaendir)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ coflein.gov.uk; adalwyd 29 Mehefin 2022.