Caernarfon Celts

tîm pêl-fasged o Gaernarfon

Mae'r Caernarfon Celts yn dîm pêl-fasged yn ardal Caernarfon.

Caernarfon Celts
Math o gyfrwngtîm pêl-fasged Edit this on Wikidata

Cafodd y Caernarfon Celts ei sefydlu er mwyn cael mwy o bobl ifanc i chwarae pêl-fasged ac i gael mwy o blant i fwynhau chwaraeon ac i gadw’n iach. Mae’r pobl ifanc yn cael eu hyfforddi gan Arwel Jones ac Aled Gwilym Jones. Mae Sion Owen a Niall Williams yn hyfforddwyr cynorthwyol.

Mae'r hyfforddiant yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Arfon.

Y timau

golygu

Mae gan y Caernarfon Celts bedwar tîm:

  • O dan 14 oed
  • Rhwng 14-16 oed
  • Rhwng 16-18 oed
  • Oedolion

Mae’r timau yn rhan o’r North Wales Basketball Association. Arwel Jones sydd yn hyfforddi y tîm dan 14 ac Aled Jones y timau dan 16 ac 18. Mae’r timau Celts hefyd yn cystadlu yn frwd. Curodd tim dan 18 ac dan 16 yr NWBA Junior Cup 2017/18.

Dolenni allanol

golygu