Caitlin MacNamara

awdur, hunangofiannydd (1913-1994)

Roedd Caitlin Thomas, ganwyd Caitlin MacNamara (8 Rhagfyr 191331 Gorffennaf 1994) yn awdures Gymreig ac yn wraig i'r bardd a'r llenor Cymreig Dylan Thomas. Ysgrifennodd y llyfr Leftover Life to Kill.

Caitlin MacNamara
Ganwyd8 Rhagfyr 1913 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1994 Edit this on Wikidata
Catania Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
TadFrancis Macnamara Edit this on Wikidata
MamYvonne Majolier Edit this on Wikidata
PriodDylan Thomas Edit this on Wikidata
PlantLlewelyn Edouard Thomas, Aeronwy Thomas, Colm Garan Hart Thomas, Francesco Fazio Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Hammersmith, Llundain i Francis ac Yvonne MacNamara. Pan oedd yn 16, mynychodd ysgol ddawns. Aeth i fyw i'r Iwerddon, yn Swydd Clare, ac yna aeth i Baris.

Cyfarfu MacNarama a Thomas mewn bar yn Llundain ym 1936, a phriododd y ddau ar 11 Gorffennaf 1937 yn Penzance, Cernyw. Cawsant dri o blant.

Pan fu farw Thomas ym 1953, symudodd MacNamara i'r Eidal, lle cyfarfu a Giuseppe Fazio ym 1957, a chawsant blentyn gyda'i gilydd.

Diwylliant cyfoes golygu

Gwnaed dwy ffilm am MacNamara: The Edge of Love, a adwaenir yn flaenorol o dan ei enw gweithiol The Best Time of Our Lives, lle portreadir MacNamara gan Sienna Miller; a Caitlin (gyda Miranda Richardson a Rosamund Pike yn portreadu'r prif gymeriad ar adegau gwahanol o'i bywyd).


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.