Ardal yn ne Ffrainc o gwmpas aber afon Rhône, yn département Bouches-du-Rhône, yw'r Camargue. Wrth ddynesu at y Môr Canoldir, mae afon Rhône yn ymrannu yn ddwy ran, y Grand-Rhône a'r Petit-Rhône. Rhennir y Camargue, sydd ag arwynebedd o 145.300ha i gyd, yn dri rhan:

  • y Petite Camargue, i'r gorllewin o'r Petit-Rhône,
  • y Grande Camargue, rhwng y Petit-Rhône a'r Grand-Rhône,
  • y Plan du Bourg, l'r dwyrain o'r Grand-Rhône.
Camargue
Mathnatural region of France Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolCamargue Edit this on Wikidata
SirBouches-du-Rhône Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
GerllawAfon Rhône Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.5333°N 4.5°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Ardal y Camargue

Yng ngogledd yr ardal ceir tiroedd amaethyddol, tra yn y de mae corsydd hallt. Mae'r ardal o bwysigrwydd mawr ar gyfer planhigion ac adar, a chrewyd y Parc naturel régional de Camargue yn 1970. Ymhlith ei nodweddion enwocaf, mae'r ceffylau gwynion.

Bu'r naturiaethwr o Gymro Peter Hope Jones yn warden gwirfoddol yma yn 1958.