Peter Hope Jones
Naturiaethwr o Gymru oedd Peter Hope Jones (21 Mai 1935 – 13 Gorffennaf 2020) a ffigwr dylanwadol yn adaryddiaeth Cymreig. Cyfunodd Jones gysactrwydd y gwyddonydd gyda theimladrwydd y bardd. Cyfunodd rhyw fyfyrgarwch moesol ym manylion pob testun neu faes fu dan ei sylw gyda'i fydolwg holistig athronyddol. Dylanwadodd ar genedlaethau o naturiaethwyr yn gymaint trwy ei bersonoliaeth a thrwy ei waith. Meddyliai am eraill pob amser, ond dangosodd trwy ei bersonoliaeth atyniadol bregusrwydd fu'n ei herio trwy ei oes yn sgil iselder. Mae teyrnged iddo yn y Guardian, 29 Gorffennaf 2020 [1].
Peter Hope Jones | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mai 1935 Prestatyn |
Bu farw | 13 Gorffennaf 2020 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd |
Cyflogwr |
Dylanwadau cynnar
golyguMagwyd Jones ym Mhrestatyn, nid nepell o aber y Ddyfrdwy. Hannai ei fam Menna o Lanrhaeadr-ym-Mochnant lle bu ei dad Stan yn gweithio ym Manc y Midland nes iddo gael ei alw I wasanaethu yn y rhyfel. Cafodd Jones ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Rhyl. Roedd ganddo lais tenor clir gan arwain côr ei dŷ yn Eisteddfod yr ysgol honno. Allan o’r ysgol ei feic oedd popeth, a dechreuodd wylio adar dan ddylanwad cyfrol Edmund Sandars "Bird Book for the Pocket" oddiar silffoedd ei Daid. Mwynhaodd yr awyr agored gyda chyfeillion agos, a threuliodd wyliau ysgol gyda theulu ei fam ar ffermydd ger Llanrhaeadr. Cyrhaeddodd Brifysgol Bangor yn 1953 i astudio Coedwigaeth. Daeth yn rhan o Grwp Adar Bangor yn fuan gan gychwyn cyfri hwyaid a rhydyddion llynnoedd ac Aberoedd Môn. Chwaraeodd hoci i garfan gyntaf y brifysgol a chafodd brofion i’r tim cenedlaethol Cymreig, ond bu’n rhaid ymollwng o hynny oherwydd ei iselder clinigol.
Bwrw prentisiaeth
golyguYm mis Mawrth 1956 cafodd swydd Warden Cynorthwyol ar Fair Isle, lle roedd y Warden Peter Davis newydd gyrraedd o Ynys Sgogwm, ac yno cafodd seiliau cadarn mewn adaryddiaeth, yn enwedig astudiaethau modrwyo a mudo adar. Ei brosiect nesaf yn 1958 oedd gweithio’n wirfoddol ar gorsdir y Camargue yn ne Ffrainc, yn cynorthwyo’r ymgyrch fodrwyo yng Ngorsaf Ymchwil Tour du Valat o dan ei berchen y Dr. Luc Hoffman. Cynhwysai hyn rai wythnosau yn Alpau’r Swisdir ac ar arfordir Sbaen.
Gyrfa broffesiynol
golyguMehefin 1960 cafodd Jones ei apwyntio yn Warden-Naturiaethwr ar Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch i’r Gadwraeth Natur a rhan o’i waith oedd gwarchod nythod y bodaod Montagu yno. Daeth yn gyfeillion gyda’r artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, gan ganfod cyrff newydd-drengi ar y traethau i Tunnicliffe eu defnyddio yn ei gelf. Daeth yn ffrindiau hefyd gyda Jill Wild fu’n ymweld â Niwbwrch gyda grwp cadwraeth gwirfoddol, a buont briodi yn 1964. Y flwyddyn ganlynol symudodd I Feirionnydd gyda naw gwarchodfa yn ei ofal. Arolygodd y poblogaethau o adar yno yn fanwl a chyhoeddodd y canlyniadau. Gwnaeth amser hyd yn oed i ymuno â’r Tim Achub Mynydd lleol Clwb Rhinog a helpu ei redeg. Yn 1968 enillodd Wobr Goffa Winston Churchill a ganiataodd iddo dreulio dau fis yn yr UD yn astudio cadwraeth a rheolaeth bywyd gwyllt.
Dechrau gofidiau
golyguDaeth ei waith gyda’r Cyngor Gwarchod Natur i ddiwedd disymwth tua 1973 ar ôl i Jill ofyn iddo am ysgariad, a’r straen yn ei orfodi i ymddiswyddo. Dwysaodd y gofidiau pan, yn 1982, bu’n rhaid mynd i’r ysbyty am rai wythnosau ar ôl pwl o endocarditis (cysylltiedig â’r clefyd cryd cymalau ei blentyndod), ac fe ddychwelodd i Brestatyn i adennill ei nerth. Y flwyddyn ganlynol symudodd i Borthaethwy, angorfa llong ymchwil Prifysgol Bangor y Prince Madog , ac fe gyfranogodd mewn prosiect i gyfri adar môr a morfilod yn y Môr Celtaidd. Priododd Jones â Joan Lewis yn 1985.
O nerth i nerth
golyguYn 1976 fe’i apwyntwyd gan yr RSPB yn ecolegydd adar môr ar yr Ynysoedd Erch lle sefydlodd gyfres o glogwyni nythu addas I’w harolygu’n flynyddol, yn ogystal â system o fonitro cyrff adar wedi eu tirio ar y traeth. Ar ddiwedd y contract hwn aeth i Lydaw i helpu ecolegwyr yno i astudio’r adar effeithiwyd gan ddrylliad yr Amoco Cadiz, ac yna i sir Benfro pan diriwyd tancer y Christos Bitas. Treuliodd wedyn dair blynedd yn Aberdeen fel rhan o dim 4-dyn Prosiect Adar-môr ar y Môr. Treulient cymaint o amser a phosibl ar y môr; yn achos Jones cynhwysai hyn bump wythnos ar lwyfan olew yn gysylltiedig â Brent Bravo yn hydref 1979. Cyhoeddwyd ei arsylwadau ar mudo’r adar a welodd fwrdd y llwyfan yn y cylchgrawn British Birds.
Enlli
golyguTreuliodd llawer o’i amser ar Enlli, gan gynnwys 12 mis yn ystod 1984/5. Bu’n gasglwr obsesiynol o bopeth am Enlli ers 1959, a bu’n olygydd adroddiad y Wylfa Adar yno ers 1999. Tra’n byw ar yr ynys bu’n gweithio ar The Natural History of Bardsey a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1988. Mae’n parhau I fod y cyflwyniad cyffredinol gorau o fywyd gwyllt yr ynys. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Between Sea and Sky, casgliad meistrolgar o’i luniau, pob un â dyfyniad o farddoniaeth ei gyfaill R.S. Thomas, ficer Aberdaron a ymwelai yn aml ag Enlli.
Ymestyn ei faes
golyguYng ngwanwyn 1986 cychwynnodd brosiect I’r RSPB ar statws ac ecoleg y grugiar ddu yng Nghymru, o safle yn Y Bala. Ar ôl ysgrifennu ei adroddiad ar y gwaith y flwyddyn wedyn fe’i rhwystrwyd gan iechyd gwael rhag parhau oherwydd y gwaith maes llafurus byddai gofyn iddo wneud. Fis Hydref 1987 cofrestrodd gyda’r Coleg Llyfryddiaeth yn Aberystwyth fel yr hynaf mewn dosbarth o 80, ac yn 1990 cyflwynodd draethawd hir Meistr ar y testun the feasibility of creating a wildlife database for Wales. Bu'n llyfrgellydd yn y pencadlys ym Mangor cyn ymddeol am gyfnod, a'i fryd, hyd yn oed y pryd hynny, oedd ar sefydlu technegau digidol i gadw lluniau a dogfennau - ar ddisg yn y cyfnod hwnnw (er yn rhyfeddol, mae’n debyg nad oedd erioed yn berchen ar ei gyfrifiadur personol!). Ail-ymunoodd â’r gwaith ym Mangor fel Ecolegydd Monitro, gan sefydlu tim o weithwyr a ddatblygodd yn rhaglen fonitro Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Arloesodd y dechneg o fonitro o’r unlle, gan ddatblygu dull o ddal cywreinrwydd newidiadau naturiol mewn cynefin ac a arddangosodd ei sgiliau ffotograffig a’i lygad am fanylder. Bu'r swydd hon yn gweddu, nid yn unig i'w gorff oedd yn gwanhau ond i'r cymhwyster llyfrgellyddol a oedd ganddo.
Ar ôl ymddeol
golyguYn 1993 bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei galon: ar ôl gosod rheolydd-calon ymddeolodd o’r diwedd yn 1994. Roedd yntau a Joan yn hapus eu byd yn eu “Cuddfan”, ty bychan yng nghanol Porthaethwy. Caniatodd ymddeol iddo barhau i ysgrifennu, gan gynnwys (gyda Ian Bonner) "A Contribution to the Flora of Bardsey" a gyhoeddwyd gan CCGC yn 2002. Ei brosiect nesaf oedd llyfr dwyieithog sylweddol ei faint Birds of Anglesey - Adar Môn (gyda Paul Whalley). Yn 2001 mewn erthygl yng nghylchgrawn newydd ar y pryd Natur Cymru, ysgrifennodd am ysbrydoliaeth a geir o warchodfeydd natur fel Enlli, a oedd iddo fe yn ganlyniad i foeseg ac i'r ymwybyddiaeth dynol yn hytrach na chrefydd theistig. Dadleuodd y gallai gwarchodfeydd gyfrannu’n ddifesur i les y Ddynoliaeth fel ffynhonnell o harddwch a naturioldeb.
Pen y mwdwl
golyguEfallai iddo ddod fymryn yn rhy hwyr, ond mor addas oedd y Gwobr Cyflawniad Oes Cymdeithas Adarydda Cymru yn 2012 (gan Iolo Williams). Cyfeiriwyd at ei waith ar adar-môr, gan gynnwys monitro trychinebau dryllio tanceri olew, a chyfanswm o 148 o gyhoeddiadau. Gorffennodd trwy gyfeirio ato fel “y dyn mwyaf diymhongar hwn”. Roedd yn ddygn y tu hwnt i grediniaeth, cydwybodol ymhell y tu hwnt i ddyletswydd ac yn ysbrydoliaeth i'w gyfeillion a’i gydweithwyr. Cyfyngwyd ei orchestion gan nifer yr oriau dydd yn unig, ond hefyd gan pyliau trist o salwch. Bu farw Joan yn 2014. Fe’i goroesir gan ei chwaer Margaret (Marty) a’I frawd Ron.[1]
Llyfrau
golygu- Birds of Anglesey - Adar Môn
- Birds of Merioneth
- Birds of Caernarvonshire (efo Peter Dare)
- Skins of guillemots, Uria aalge, and razorbills, Alca torda, examined at Cascais, Portugal in May 1982 (Memórias do Museu do Mar)
- Enlli: Ddoe a Heddiw / Bardsey: Past and Present
- The Natural History of Bardsey
- Between Sea and Sky - Images of Bardsey (efo R.S. Thomas)
- Beauty and Spirit at Bardsey
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Seilwyd ar adroddiad PHJ ei hun o'i fywyd: Bwletin Llên Natur Awst 2020 (rhifyn 150)