Camlas Grand Union
Camlas sy'n cysylltu Llundain a Birmingham yw Camlas Grand Union.[1] Mae’n 137 milltir o hyd ac mae 166 o lociau. Mae canghennau’n mynd i Gaerlŷr, Slough, Aylesbury, Wendover a Northampton. Crewyd y Grand Union gan uno Camlas Grand Junction a Chamlas Regent
Math | camlas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerlŷr, Swydd Buckingham, Berkshire, Swydd Warwick, Swydd Northampton, Swydd Hertford |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.0508°N 0.734°W |
Hyd | 220 cilometr |
Perchnogaeth | Grand Union Canal Company |
Mae’r gamlas yn cysylltu ag Afon Tafwys yn Brentford, ac mae dros 50 o lociau rhwng Afon Tafwys a chopa Bryniau Chiltern. Mae’r gamlas yn mynd trwy Stoke Bruerne, lle mae Amgueddfa’r Camlesi, a Braunston. Mae twneli ger Braunston a Blisworth. Mae’r gamlas yn mynd trwy Leamington Spa a Warwick ar ei ffordd i Birmingham. Mae 21 o lociau yn Hatton sydd erbyn hyn wedi cael y llysenw ‘Stairway to Heaven’. Ailadeiladwyd y lociau gyda choncrit gan 1,000 o ddynion dros gyfnod o 2 flynedd.[2]
Cangen Paddington a Chamlas Regent
golyguMae’n mynd heibio Parc Regent Sw Llundain a Camden Town cyn ymuno ag Afon Tafwys ym Masn Limehouse.[2]
Cangen Caerlŷr
golyguMae’n gadael y brif gamlas wrth Gyffordd Norton, i’r de o Braunston, gan ddringo ac wedyn syrthio cyn ymuno ag Afon Soar yn ymyl Loughborough, ac ar ôl 10 milltir arall mae'n ymuno ag Afon Trent ger Kegworth. Mae dwy dwnel ger Crick a Husband’s Bosworth, cyfres o lociau yn Watford, a Foxton, ac mae man uchaf y gangen rhyngddynt. Disodlwyd 10 o lociau Foxton gyda plân ar oleddf, yn codi cychod 75 troedfedd, ym 1900, ond wedi problemau, ail agorwyd y lociau ym 1908.[2]
Cangen Slough
golyguMae’n estyn am 5 milltir i’r gorllewin o Cowley Peachey..
Cangen Wendover
golyguYn cael ei adnewyddu gan Ymddiriodolaeth Cangen Wendover.[3]
Cangen Aylesbury
golyguMae’n disgyn drwy 16 o lociau i Aylesbury.
Cangen Northampton
golyguMae’n mynd o Gyffordd Gayton ac yn cysylltu ag Afon Nene.
Cangen Saltisford
golyguWedi'i hadnewyddu gan Ymddiriodolaeth Camlas Saltisford, mae’n gangen fer yn mynd i ganol Warwick.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan canalrivertrust.org.uk
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Gwefan canaljunction.com
- ↑ "Gwefan Ymddiriodolaeth Cangen Wendover". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-01. Cyrchwyd 2018-08-23.
- ↑ Gwefan Ymddiriodolaeth Camlas Saltisford