Campbeltown
Tref arfordirol yn Argyll a Bute, Yr Alban, yw Campbeltown[1] (Gaeleg yr Alban: Ceann Loch Chille Chiarain;[2] Sgoteg: Cammeltoun).[3] Fe'i lleolir ar lan Culfach Campbeltown ar penrhyn Kintyre. Y ddinas agosaf ydy Glasgow, sy'n 98.8 km i ffwrdd.
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 5,722, 4,670 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Argyll a Bute |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.4233°N 5.6061°W |
Cod SYG | S20000001, S19000001 |
Cod OS | NR718203 |
Cod post | PA28 |
Trafnidiaeth
golyguMae Maes Awyr Campbeltown yn gorwedd ger y Burgh, ac mae gwasanaethau yn rhedeg rhwng y fan hon a Maes Awyr Rhyngwladol Glasgow yn ystod yr wythnos, ond nid ar benwythnosau.
Mae lleoliad y dref yn anghysbell ger pen pellaf penrhyn hir yn gwneud teithio ar ffyrdd yn anodd, ac i ryw raddau mae'r ardal yn dibynnu ar y môr a thrafnidiaeth awyr, fel yr Ynysoedd Mewnol Heledd. Fodd bynnag, mae'r dref wedi'i gysylltu â gweddill yr Alban gan yr A83 (i Tarbet) a'r A82 (o Tarbet i Glasgow).
Hinsawdd
golyguFel gweddill Ynysoedd Prydain a'r Alban, mae Cambeltown yn wynebu hinsawdd arforol gyda hafau oer a gaeafau mwyn. Mae'r orsaf agosaf swyddogol Swyddfa Dywydd ar gyfer cofnodion ar-lein ar gael ar Maes Awyr Campbeltown/RAF-Machrihanish, tua 3 milltir i'r gorllewin o ganol y dref.
Hinsawdd Machrihanish, 10m asl, 1971-2000 | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 7.5 (45.5) |
7.5 (45.5) |
8.7 (47.7) |
10.6 (51.1) |
13.7 (56.7) |
15.6 (60.1) |
17.1 (62.8) |
17.2 (63.0) |
15.5 (59.9) |
12.9 (55.2) |
9.9 (49.8) |
8.3 (46.9) |
12.05 (53.68) |
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 2.4 (36.3) |
2.4 (36.3) |
3.2 (37.8) |
4.2 (39.6) |
6.6 (43.9) |
9.0 (48.2) |
11.2 (52.2) |
11.2 (52.2) |
9.6 (49.3) |
7.6 (45.7) |
4.6 (40.3) |
3.3 (37.9) |
6.28 (43.31) |
Source: YR.NO[4] |
Enwogion
golygu- Jill McGowan (1947-2007), Awdur nofelau dirgelwch
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Ebrill 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-04-12 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 12 Ebrill 2022
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 12 Ebrill 2022
- ↑ "1971-2000 averages". YR.NO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-26. Cyrchwyd 14 Ebr 2012.