Dinas a chymuned (comune) yn ne'r Eidal yw Campobasso, sy'n brifddinas talaith Campobasso a rhanbarth Molise. Saif yn nyffryn uchaf Afon Biferno.

Campobasso
Tŵr Eglwys San Bartolomeo, Campobasso
Mathcymuned Edit this on Wikidata
It-Campobasso.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth47,075 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Banja Luka, Benevento, Viterbo, Ottawa, Vladimir, Vastogirardi, Lezhë Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Campobasso Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd56.11 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr701 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBusso, Campodipietra, Castropignano, Ferrazzano, Matrice, Mirabello Sannitico, Oratino, Ripalimosani, San Giovanni in Galdo, Vinchiaturo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.561°N 14.6684°E Edit this on Wikidata
Cod post86100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Campobasso Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 48,747.[1]

Mae Campobasso yn enwog am gynhyrchu llafnau o wahanol fathau, yn cynnwys cyllyll a sisyrnau, a hefyd am gaws scamorza. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu fel caer gan y Lombardiaid cyn yr 8g. Y prif atyniad yw'r Castello Monforte, a adeiladwyd yn 1450 gan Nicola II Monforte.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Castello Monforte
  • Eglwys Santes Maria Maggiore
  • Eglwys Gadeiriol y Drindod
  • Eglwys San Bartolomeo
  • Eglwys San Leonardo
  • Villa de Capoa

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 13 Tachwedd 2022