Camsyniad teimladol
Term llenyddol yw camsyniad teimladol sydd yn cyfeirio at yr arfer o briodoli emosiynau dynol i anifeiliaid neu blanhigion, gwrthrychau difywyd, neu bethau naturiol megis y tywydd. Ffurf ar bersonoli a dynweddiant ydyw. Bathwyd y term Saesneg pathetic fallacy gan y beirniad John Ruskin yn ei gyfrol Modern Painters (1843), wrth ddyfynnu llinellau o'r gerdd "Alton Lock" gan Charles Kingsley fel esiampl o'r camsyniad: "They rowed her in across the rolling foam- / The cruel, crawling foam".[1] Bôn y gair pathetic yn yr ystyr hon yw'r Groeg pathos, sef emosiwn neu brofiad. Er i Ruskin ladd ar feirdd sydd yn defnyddio'r dechneg yn ormodol, mae'r camsyniad teimladol yn hynod o gyffredin mewn barddoniaeth mewn sawl iaith, ac yn agwedd hollbresennol o ambell ffurf, er enghraifft y fugeilgerdd.[2]
Enghraifft o'r canlynol | stylistic device |
---|---|
Label brodorol | pathetic fallacy |
Enw brodorol | pathetic fallacy |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ David Kirby, Dictionary of Contemporary Thought (Llundain: Macmillan, 1984), t. 83.
- ↑ (Saesneg) Pathetic fallacy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2023.