John Ruskin
Beirniad celf a meddyliwr cymdeithasol o Sais oedd John Ruskin (8 Chwefror 1819 – 20 Ionawr 1900), a gaiff ei gofio hefyd fel bardd ac arlunydd. Bu ei draethodau ar gelf a pensaerniaeth yn ddylanwadol iawn yn yr Oesoedd Fictoraidd ac Edwardaidd.
John Ruskin | |
---|---|
Ffugenw | Kata Phusin |
Ganwyd | 8 Chwefror 1819 Llundain |
Bu farw | 20 Ionawr 1900 Coniston |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, beirniad celf, hanesydd celf, athronydd, arlunydd, cymdeithasegydd, academydd, bardd, beirniad llenyddol, pensaer, newyddiadurwr, esthetegydd, daguerreotypist |
Swydd | master |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Modern Painters, The Seven Lamps of Architecture, The Stones of Venice, Unto This Last, Fors Clavigera |
Mudiad | Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid, rhyddfeddyliaeth |
Tad | John James Ruskin |
Mam | Margaret Cock Ruskin |
Priod | Effie Gray |
Gwobr/au | Newdigate Prize |
llofnod | |
- Gweler hefyd: John Ruskin (paentiad).
Daeth Ruskin yn adnabyddadwy yn gyffredinol am y tro cyntaf am ei gefnogaeth o waith yr arlunydd J. M. W. Turner a'i amddiffyniad o naturoliaeth mewn celf. Ar ôl hynny rhoddodd bwysau ei ddylanwad tu ôl i'r symudiad Cyn-Raffaëlaidd. Trodd ei lên diweddarach tuag at archwiliadau o faterion cymhleth a phersonol diwylliant, cymdeithas a moesoldeb, a bu'n ddylanwadol yn natblygiad Sosialaeth Cristnogol.
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Ruskin yn Llundain a magwyd yn Ne Llundain, yn unig blentyn i mewnforiwr gwin a gyd-sefydlodd y cwmni Allied Domecq. Addysgwyd gartref ac aeth ymlaen i fynychu Coleg y Brenin, Llundain a Choleg Crist, Rhydychen. Yn Rhydychen, rhestrodd fel "bonheddwr-gwrêng", dosbarth o fyfyrwyr na ddisgwyliwyd i ddilyn cwrs cyflawn o astudio. Roedd ei astudiaethau'n grwydraidd, a bu'n absennol yn aml. Ond, fe wnaeth argraff ar ysgolheigion Coleg Crist, Rhydychen wedi iddo ennill y Wobr Newdigate am farddoniaeth, a oedd ei ddiddordeb cynharaf. Fel canlyniad, ac er iddo gael cyfnod hir o salwch difrifol, rhoddodd Rhydychen radd pedwerydd dosbarth gydag anrhydedd iddo.
Cyhoeddiadau cyntaf
golyguYmddangosodd gwaith Ruskin wedi ei gyhoeddi am y tro cyntaf ym 1834, pan ddechreuodd ysgrifennu erthyglau'n 15 oed, ar gyfer cylchgrawn Llundain, y Magazine of Natural History. Ym 1836–1837, ysgrifennodd The Poetry of Architecture, a gyhoeddwyd fel cyfres yn yr Architectural Magazine, dan yr enw ysgrifennu "Kata Phusin" (Groeg am "yn ôl Natur"). Roedd hwn yn astudiaeth o fythynod, filâu ac anheddau eraill a ganolodd oamgylch y ddadl Wordsworthiaidd y dylai adeiladau fod mewn cydymdeimladol â'r amgyclhedd lleol, a dylent ddefnyddio deunyddiau lleol. Yn fuan wedyn, ym 1839, cyhoeddodd ei "Remarks on the present state of meteorological science" yn y Transactions of the Meteorological Society (tud. 56–59).
Arlunwyr cyfoes (1843)
golyguAeth Rukin ymlaen i gyhoeddi cyfrol gyntaf o'i brif weithiau, Modern Painters, ym 1843, gyda'r hunaniaeth anhysbys "An Oxford Graduate". Dadleuodd y gwaith hwn fod arlunwyr tirwedd cyfoes, yn arbennig J. M. W. Turner, yn uwchraddol i'r arlunwyr a gyfeirwyd atynt fel yr "Hen Feistri" y cyfnod ôl-Ddadeni. Roedd yn honiad yn ddadleuol iaen, yn enwedig gan y bu gweithiau rhannol abstract diweddaraf Turner yn cael eu disgrifio gan rhai feirniaid fel dwbiadau di-ystyr. Cafodd y raddfa y drodd Ruskin y teimlad gwrth-Turner o'i chwmpas ei or-bwysleisio yn y gorffennol, gan y bu Turner yn ffigwr clodfawr o bwys yn y byd celf Fictorianaidd, ac yn aelod blaengar o'r Academi Frenhinol. Roedd beirniadaeth hallt Ruskin o Hen Feistri megis Gaspard Dughet (Gaspar Poussin), Claude Lorrain, a Salvator Rosa, yn llawer mwy dadleuol, gan gysidro'r parch dirfawr a'u hystyrwyd gyda ar y pryd. Canolodd yr ymosodiad hwn ar y Hen Feistri ar beth alwodd Ruskin yn eu diffyg sylw i'r gwir naturiol. Yn hytach na 'mynd at natur', fel y gwnai Turner, rodd yr Hen Feistri yn 'cyfansoddi' neu dyfeisio eu tirweddau yn eu stiwdios. Credi Ruskin fod gwaith Turner a James Duffield Harding (tiwtor celf Ruskin) yn arddangos dealltwriaeth llawer mwy dwys o natur, gal arsylwi ar 'wirioneddau' dŵr, yr awyr, cymylau, cerrig a llysdyfiant.
Cysidrodd Ruskin fod rhai meistri y Dadeni, yn arbennig Titian a Dürer, wedi arddangos ymroddiad tebyg i natur, ond ymosododd ar Michelangelo hydynoed, fel dylanwad llygredig ar gelf. Mae ail hanner Modern Painters I yn cynnwys arsylwadau manwl Ruskin o'r union ffordd mae cymylau'n symud, sut mae moroedd yn ymddangos ar wahanol adega'ur dydd, neu sut mae coed yn tyfu, gan ddilyn gyda esiamplau o wallau neu wirioneddau mewn gwaith amryw o arlunwyr.
Roedd Ruskin eisoes wedi cyfarfod a do yn gyfeillgar â Turner, a daeth yn un ysgutorion o'i ewyllys yn ddiweddarach. Credai nifer y dinistriodd Ruskin nifer helaeth o frasluniau Turner fel un o'r ysgutorion ym 1858, cyn iw pynciau 'pornograffig' gael eu canfod; ond mae canfyddiadau diweddar yn gwneud y syniad hwn yn amheus iawn.
Dilynwyd Modern Painters I gan ail gyfrol, a ddatblygodd syniadau Ruskin ynglŷn â symboliaeth mewn celf. Trodd tuag at bensaerniaeth, gan ysgrifennu The Seven Lamps of Architecture a The Stones of Venice, a ddadleuodd na ellir gwahanu pensaerniaeth a moesoldeg, a fod yr arddull "Gothig Addurniadol" yn un o'r ffurfiau mwyaf uwchraddol o bensaerniaeth a oedd wedi eu cyflawni hyd hynnu.[2]
Erbyn y cyfnod hwn, roedd Ruskin yn ysgrifennu dan ei enw ei hun ac roedd wedi dod yn un o ddamcaniaethwyr diwylliannol enwocaf y cyfnod.
Bywyd personol
golyguPriododd Effie Gray, a oedd yn llawer iau nag ef. Ni chymerwyd y briodas erioed. Dirymwyd y briodas ym 1854. Priododd Effie yr arlunydd John Everett Millais, ffrind Ruskin. Ni phriododd Ruskin eto.
Detholiad o'i lyfryddiaeth
golygu- Poems (1835-1846)
- The Poetry of Architecture: Cottage, Villa, etc., to Which Is Added Suggestions on Works of Art (1837-1838)
- The King of the Golden River, neu The Black Brothers (1841)
- Modern Painters
- Part I. Of General Principles (1843-1844)
- Part II. Of Truth (1843-1846)
- Part III. Of Ideas of Beauty (1846)
- Part IV. Of Many Things (1856)
- Part V. Mountain Beauty (1856)
- Part VI. Of Leaf Beauty (1860)
- Part VII. Of Cloud Beauty (1860)
- Part VIII. Of Ideas of Relation: – I. Of Invention Formal (1860)
- Part IX. Of Ideas of Relation: – II. Of Invention Spiritual (1860)
- Adolygiad o Sketches of the History of Christian Art yr Arglwydd Lindsay (1847)
- The Seven Lamps of Architecture (1849)
- Llythyrau i'r Times yn amddiffyn Hunt a Millais (1851)
- Pre-Raphaelitism (1851)
- The Stones of Venice
- Volume I. The Foundations (1851)
- Volume II. The Sea–Stories (1853)
- Volume III. The Fall (1853)
- Darlithau ar Bensaerniaeth a Pheintio, a adroddwyd yng Nghaeredin, Tachwedd 1853
- Architecture and Painting (1854)
- The True and the Beautiful in Nature, Art, Morals and Religion (1858)
- Llythyrau i'r Times yn amddiffyn Paentio Cyn-Raffaëlaidd (1854)
- Academy Notes: Annual Reviews of the June Royal Academy Exhibitions (1855-1859 / 1875)
- The Harbours of England (1856)
- "A Joy Forever" and Its Price in the Market, neu The Political Economy of Art (1857 / 1880)
- The Elements of Drawing, yn Three Letters to Beginners (1857)
- The Two Paths: Being Lectures on Art, and Its Application to Decoration and Manufacture, darlith a roddwyd ym 1858–189
- The Elements of Perspective, Arranged for the Use of Schools and Intended to be Read in Connection with the First Three Books of Euclid (1859)
- Unto This Last: Four Essays on the First Principles of Political Economy (1860)
- Munera Pulveris: Essays on Political Economy (1862-1863 / 1872)
- Cestus of Aglaia (1864)
- Sesame and Lilies (1864-1865) darlithau a roddwyd yn Rusholme, Manceinion
- The Ethics of the Dust: Ten Lectures to Little Housewives on the Elements of Chrystallisation (1866)
- The Crown of Wild Olive: Three Lectures on Work, Traffic and War (1866)
- Time and Tide by Weare and Tyne: Twenty-five Letters to a Working Man of Sunderland on the Laws of Work (1867)
- The Flamboyant Architecture of the Somme (1869)
- The Queen of the Air: Being a Study of the Greek Myths of Cloud and Storm (1869)
- Verona and its Rivers (1870)
- Lectures on Art, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Hilary, 1870
- Aratra Pentelici: Six Lectures on the Elements of Sculpture, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Michaelmas, 1870
- Lectures on Sculpture, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen, 1870–1871
- Fors Clavigera: Letters to the Workmen and Labourers of Great Britain
- Volume I. (1871)
- Volume II.
- Volume III.
- Volume IV. (1880)
- The Eagle's Nest: Ten Lectures on the Relation of Natural Science to Art, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term y Grawys, 1872
- Love's Meinie (1873)
- Ariadne Florentia: Six Lectures on Wood and Metal Engraving, with Appendix, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Michaelmas, 1872
- Val d’Arno: Ten Lectures on the Tuscan Art antecedent to the Florentine Year of Victories, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Michaelmas, 1872
- Mornings in Florence (1877)
- Pearls for Young Ladies (1878)
- Review of Paintings by James McNeill Whistler (1878)
- Fiction, Fair and Foul (1880)
- Deucalion: Collected Studies of the Lapse of Waves and Life of Stones (1883)
- The Art of England: Lectures Given at the University of Oxford (1883-1884)
- St Mark's Rest (1884)
- The Storm-Cloud of the Nineteenth Century (1884)
- The Pleasures of England: Lectures Given at the University of Oxford (1884-1885)
- Bible of Amiens (1885)
- Proserpina: Studies of Wayside Flowers while the Air was Yet Pure among the Alps and in the Scotland and England Which My Father Knew (1886)
- Præterita: Outlines of Scenes and Thoughts Perhaps Worthy of Memory in My Past Life (1885-1889)
- Dilecta
- Giotto and His Works in Padua: Being an Explanatory Notice of the Series of Woodcuts Executed for the Arundel Society after the Frescoes in the Arena Chapel
- Hortus Inclusus
- In Montibus Sanctis
- Cœli Enarrant
- Notes on Samuel Prout and William Hunt
- Guide to the Principal Pictures of the Venice Academy of Fine Arts
- Catalogue of the Drawings and Sketches of J. M. W. Turner
- An Inquiry into Some of the Conditions at Present Affecting "The Study of Architecture" in our Schools
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Ebrill 1996) Ruskin and Millais at Glenfinlas, Cyfrol 138, Rhifyn 1117. The Burlington Magazine, tud. 228–234. URL
- ↑ Jonathan Smith (Gorffennaf 1994). Architecture and Induction: Whewell and Ruskin on Gothic. Darlith yn "Science and British Culture in the 1830s," Coleg y Drindod, Caergrawnt.