Cannabis indica
Cannabis indica | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Cannabaceae |
Genws: | Cannabis |
Rhywogaeth: | C. indica |
Enw deuenwol | |
Cannabis indica Lam. |
Planhigyn unflwydd yn nheulu'r Cannabaceae yw Cannabis indica, a adnabuwyd gynt fel Cannabis sativa forma indica sy'n aelod tybiedig o'r tylwyth Canabis; aelod arall o'r teulu hwn yw Cannabis sativa.
Tyfu
golyguTyfir planhigion Cannabis indica llydanddail yn India, Affganistan, Bangladesh a Pacistan er mwyn cynhyrchu hashish. Yn gemegol, mae'r math hwn yn llawer cryfach o ran y cyffur sydd ynddo na C. sativa: hy mae'r lefel o CBD yn uwch.[1] Ond mae yna fath masnachol o indica a fagwyd yn fwriadol er mwyn cael lefel uchel o CBD. Disgrifir y wefr a geir o gymryd Cannabis indica fel "body buzz" ac mae'n gryn effeithiol fel cyffur i atal poen neu ar gyfer anhwylder fel diffyg cwsg.
Ymhlith y bridiau o indica a fagwyd ar gyfer difyrrwch neu feddygol y mae Kush a Golau'r Gogledd.
-
Dail llydan planhigyn C. indica
-
Cannabis indica
-
Cannabis indica yn ei blodau
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fischedick, Justin Thomas; Hazekamp, Arno; Erkelens, Tjalling; Choi, Young Hae; Verpoorte, Rob (Rhagfyr 2010). "Metabolic fingerprinting of Cannabis sativa L., cannabinoids and terpenoids for chemotaxonomic and drug standardization purposes". Phytochemistry 71 (17-18): 2058–2073. doi:10.1016/j.phytochem.2010.10.001. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21040939. Adalwyd 30 May 2015.