Cynnyrch canabis a wneir o chwarennau resin (hynny yw, blew neu trichomau) y planigyn wedi eu cywasgu neu eu puro yw hashish (neu hash). Mae'n cynnwys yr un cyfansoddion gweithredol (THC a channabinoidau eraill) â blagur neu ddail y planhigyn sydd heb gael eu trin, ond mewn crynodiadau uwch. Gall fod yn solid neu ar ffurf resin, yn ddibynol ar sut mae wedi cael ei ffurfio; fel arfer mae hashish wedi'i gywasgu'n solid tra bo hashish sydd wedi'i wneud drwy broses puro dŵr (neu bubble melt hash) yn debycach i bast o liw melyn, brown golau, coch neu ddu.

Hashish
Enghraifft o'r canlynolresin Edit this on Wikidata
MathCanabis, meddyginiaeth Edit this on Wikidata
Deunyddtrichomes Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTetrahydrocannabinol Edit this on Wikidata
CynnyrchCannabis sativa, Cannabis indica Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
1.5g o hashish Americanaidd

Mae hashish wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion meddygol ac fel cyffur adloniadol ers o leiaf y 3g CC.[1] Caiff ei gynhesu mewn pibell o'r enw hwca (hookah), bong neu mewn anweddwr neu mewn joint wedi'i gymysgu gyda chanabis neu dybaco. Gellir hefyd ei gymysgu mewn bwyd neu mewn potel fragu.

Hanes golygu

Daw'r enw hashish o'r gair Arabeg ( حشيش ), sy'n golygu 'gwair' a chredir iddo darddu o Foroco, lle y tyf yn rhydd. Fodd bynnag mae hemp wedi tyfu yn Taiwan mor bell yn ôl â 10,000 CC, a chofnodir y defnydd cyntaf o ganabis yng nghanol Asia neu Tsieina.[2]

Tyfwyd hashish yn India hefyd ers canrifoedd, ar enw arno yn y wlad honno oedd Charas, a hefyd yn Persia.[3] Tyfir Cannabis indica ar hyd a lled cyffiniau India-Asia, a thyfwyd mathau arbennig o ganja mewn llefydd fel Gorllewin Bengal, Rajasthan a mynyddoedd yr Himalaya.

Cyfeiriadau golygu

  1. Guide To The Different Types Of Hash From Around The World
  2. Merlin, M. D. 2003 "Archaeological evidence for the tradition of psychoactive plant use in the Old World," Economic Botany 57 (3): 295-323. Table 1 (re Taiwan) and p. 312 (quotation). [1]. Rtvd 2014.02.22.
  3. Usaybia, Abu; Notes on Uyunu al-Anba fi Tabaquat al-Atibba, Berkeley: University of California Press, 1965.