Cannes
Cymuned a thref yn ne Ffrainc yw Cannes. Saif ar arfordir y Côte d'Azur, yn département Alpes-Maritimes. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 72,400. Mae y traethau tywodlyd yma yn atyniad mawr i dwristiaid. Daw'r enw "Cannes" o enw Ffrangeg y Gawrgorsen (Arundo donax).
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 74,040 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | David Lisnard ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Grasse, Alpes-Maritimes, canton of Cannes-Centre, canton of Cannes-Est, canton of Mandelieu-Cannes-Ouest ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 19.62 km² ![]() |
Uwch y môr | 0 metr, 260 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Le Cannet, Mandelieu-la-Napoule, Mougins, La Roquette-sur-Siagne, Vallauris ![]() |
Cyfesurynnau | 43.5525°N 7.0214°E ![]() |
Cod post | 06400, 06150 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cannes ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | David Lisnard ![]() |
![]() | |
Pentref bychan yn dibynnu ar bysgota oedd Cannes hyd y 19g, ond o tua 1830 ymlaen dechreuodd dyfu'n gyflym wrth i ddosbarth uchaf ac yna ddosbarth canol Ffrainc ac ymwelwyr tramor, yn enwedig Saeson, ddechrau adeiladu tai haf yn y cylch. Crëwyd y traethau tywodlyd yn fwriadol er mwyn denu ymwelwyr. Cynhelir Gŵyl Ffilmiau Cannes yma bob blwyddyn ers 1946. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn y Palais des Festivals et des Congrès.
Ceir diwydiannau yma heblaw twristiaeth; mae canolfan dechnoleg Sophia-Antipolis yn commune Valbonne yn y bryniau uwchben Cannes.