Côte d'Azur
Côte d'Azur (arfordir glas y wybren) yw enw riviera Ffrainc a Monaco.
Y bardd Stephen Liégard a rhoddodd yr enw hwn arno pan ddisgynodd o'r trên yn Hyères-Plage ac fe welodd lliw y môr.
Mae'r Saeson wedi rhoi'r enw "French Riviera" arno.
Math | arfordir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Port-Cros National Park |
Sir | Provence-Alpes-Côte d'Azur |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 43.32°N 6.665°E |
Mae'r Côte-d'Azur ar lannau'r Môr Canoldir. Mae e'n ymestyn o Les Lecques, ger St-Cyr-sur-Mer yn Ffrainc hyd at Garavan ger Menton ac mae e'n cynnwys tywysogaeth Monaco. Mae'r Côte-d'Azur yn rhan o'r Riviera sy'n parhau hyd at La Spezia yn yr Eidal. Prif ddinas y Côte-d'Azur yw Nice (Nissa).
Hinsawdd
golyguMae hinsawdd arbennig ar y Côte-d'Azur gan ei fod ger y Môr Canoldir a gan fod y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn ei gysgodi yn erbyn gwyntoedd oer y gaeaf.
Adrannau'r Côte-d'Azur
golyguMae tair adran ar y Côte-d'Azur;-
- Adran y Var : prifddinas Toulon.
- Adran Alpes-Maritimes : prifddinas Nice.
- Tywysogaeth Monaco.