Cannu rhefrol yw'r broses o ysgafnhau lliw'r croen o gwmpas yr anws. Caiff ei wneud at ddibenion cosmetig, i wneud lliw'r anws yn fwy unffurf â'r croen cyfagos.

Twll tin (neu 'rhefr') gyda'r croen o'i gwmpas wedi'i wynu (neu ei 'gannu').

Mae rhai triniaethau yn cael eu cynnig mewn salon gan dechnegydd cosmetig ac eraill yn cael eu gwerthu fel hufenau gellir eu defnyddio cartref. Ceir tystiolaeth fod cryn beryglon ynghlwm wrth rhai o'r dulliau o gannu (neu wynu).[1]

Hanes golygu

Actoresau pornograffi a diddanwyr pornograffig eraill oedd y cyntaf i ddefnyddio'r broses o gannu rhefrol, mewn ymdrech i sicrhau bod tôn eu croen yn unffurf dros y cyfan o'u cyrff. Ymledodd yr arfer i sêr ffilm y brif ffrwd yn Hollywood pan ddaeth noethni'n fwy cyffredin mewn ffilmiau mawr.[2]

Bellach mae cannu rhefrol yn broses sydd ar gael i bawb.[3]

Dulliau golygu

Mae yna nifer o ffyrdd o gyflawni'r broses o gannu rhefrol. Y dull mwyaf cyffredin, mwyaf diogel a mwyaf dibynadwy yw trwy ddefnyddio eli yn y cartref er mwyn targedu'r croen dywyll wrth ardal yr organau rhywiol a phylu'r ardal dywyll yn raddol dros gyfnod o amser. Mae'r rhan fwyaf o'r dulliau eraill a ddefnyddir ar gyfer cannu croen, megis triniaethau cryosurgery a channu laser yn annibynadwy ac yn gallu bod yn beryglus.

Cyfeiriadau golygu

  1. www.pressbox.co.uk; Archifwyd 2013-01-17 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  2. "Bruno on Anus: I'm Bleached and I'm Proud!". TMZ.com. 2009-12-05. Cyrchwyd 2012-05-16.
  3. By Cosmopolitan.com (2011-08-03). "The Scary New Butt Beauty Trend". Cosmopolitan. Cyrchwyd 2014-08-23.