Canolfan Gelfyddydau Chapter
Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter (adnabyddir yn fwy cyffredin fel Chapter) yn ganolfan gelfyddydau yn Nhreganna, Caerdydd ac a agorwyd yn 1971.
Math | canolfan y celfyddydau, theatr, sinema, oriel gelf |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4831°N 3.2036°W |
Cod post | CF5 1QE |
Disgrifiad
golyguMae Chapter yn cynnal ffilmiau, dramâu, celf gweledol a cherddoriaeth fyw, ac mae yno oriel gelf am ddim, bar a chaffi. Mae hefyd dros 60 o fannau gweithio a ddefnyddir at ystod nifer o ddibenion, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi Chapter ei hun.
Daw ugain y cant o incwm y ganolfan o'r theatrau ffilm, sy'n dangos ffilmiau Hollywood prif-ffrwd yn ogystal ag ystod eang o ffilmiau tramor ac annibynnol.
Derbynia'r ganolfan grant mawr yn flynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Hanes
golyguSefydlwyd Chapter gan yr artistiaid Cymreig, Christine Kinsey a Bryan Jones gyda'r newyddiadurwr Mike Flood ac agorodd y ganolfan yn 1971.[1] Roedd yr adeilad cyn hynny yn ysgol: Ysgol Uwchradd Treganna a adeiladwyd yn 1905.[2]
Yn fwy diweddar bu Chapter yn destun ailddatblygiad gwerth £3.8 miliwn wedi ei ddylunio gan y penseiri Ash Sakula Architects a benodwyd yn 2006. Ail-fodelwyd ardaloedd o'r llawr cyntaf, gan ychwanegu 'blwch golau' un-llawr uwchben y brif fynedfa fel 'wal artistig'. Arosodd y ganolfan yn agored drwy'r ailddatblygiad ac agorodd y Chapter newydd yn Nhachwedd 2009. Enillodd yr adeilad Wobr R.I.B.A. Cymru yn 2010.[3] Cafodd y cynllun agored ei ddisgrifio yn gyfeillgar i ddefnyddwyr gyda llawer o fanylion.
Yn dilyn yr adnewyddiad yn 2009, dwblodd nifer yr ymwelwyr i 800,000 pob blwyddyn, gan ei wneud yr ail atyniad mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd.[4]
Yn Mawrth 2014, gosododd Chapter 60 o baneli solar ar do'r adeilad, sy'n darparu 15KW o drydan.[angen ffynhonnell]
Yn Hydref 2014, daeth Chapter yn lleoliad ar gyfer gwobr ac arddangosfa rhyngwladol Artes Mundi, wrth iddo enhangu tu hwnt i Amgueddfa Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf.[5]
Yn Rhagfyr 2015 cyhoeddodd Chapter y byddai'r prif Theatr a'r Stiwdio yn cael eu hailenwi i ddathlu rhodd sylweddol gan David Seligman Archifwyd 2017-03-05 yn y Peiriant Wayback. Caiff yr ardaloedd eu hadnabod fel Theatr Seligman Theatre a Stiwdio Seligman.[6]
Ardaloedd
golygu- Galerïau
- Dwy theatr ffilm (lle i: 188 a 57)
- Dwy theatr (lle i: 96 a 60 yn eistedd, a sefyll)
- Dau fars (ground floor has normal opening hours; upstairs is open for specific events)
- Caffi
- Siop
- Nifer o ardaloedd i'w llogi (gwahanol feintiau)
- Nifer o ardaloedd ar gyfer cynhyrchu celf, artistiaid preswyl, ayyb.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A Brief History of Chapter Archifwyd 2011-10-03 yn y Peiriant Wayback Error in webarchive template: Check
|url=
value. Gwefan Chapter; adalwyd 2011-11-15. - ↑ Rory Olcayto Chapter Arts Centre, Cardiff, by Ash Sakula Architects, The Architects' Journal, 11 Mawrth 2010. Adalwyd 15 Tachwedd 2011.
- ↑ RIBA Awards Archifwyd 2012-03-10 yn y Peiriant Wayback Error in webarchive template: Check
|url=
Gwefan R.I.B.A. Adalwyd 2011-11-15. - ↑ Cathy Owen (11 April 2014) "Chapter Arts Centre unveils plans for £6m expansion", WalesOnline. Retrieved 2014-04-14.
- ↑ Emma Crichton-Miller (13 Tachwedd 2014). "Artes Mundi: international art in Cardiff". Apollo Magazine. Cyrchwyd 28 Ionawr 2015.
- ↑ "Chapter celebrates significant donation from David Seligman". Chapter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2015-12-10.