Mae siart cylch yn ddiagram ystadegol sydd wedi'i rhannu'n dafelli i ddangos cyfran rifiadol. Mewn siart cylch, mae hyd, arwynebedd ac ongl arc pob tafell, yn gyfraneddol (proportional) i'r swm y mae'n ei gynrychioli. Ceir cryn amrywiadau ar y modd y gellir cyflwyno'r math hwn o siart.

Niferoedd o luniau gan rai gwledydd a uwchlwythwyd i'r Gystadleuaeth Wici Henebion yn 2017.      Cymru (36%)     Lloegr (28%)     Yr Alban (11%)     Canada (11%)     Sweden (8%)     Iwerddon (6%)

Defnyddir y siart cylch drwy'r byd ar hysbysebion a thrwy'r cyfryngau gweledol.[1] Gan ei bod yn anodd cymharu rhai o'r tafelli o fewn y siart, mae llawer o fathemategwyr yn argymell peidio a defnyddio'r math hwn o siart.[2][3][4][5]. Dywedant ei bod yn llawer haws cymharu data pan gaiff ei arddangos mewn siartiau llinell, siartiau bar a siartiau eraill.

Credir mai'r Albanwr Breviary Ystadegol William Playfair a luniodd y siart cylch cynharaf y gwyddys amdani a hynny mewn llyfr o'r enw Statistical Breviary yn 1801.[6][7][8]

 
Un o siartiau cylch William Playfair, a gyhoeddodd yn ei lyfr Statistical Breviary (1801).

Yn ei lyfr, cyflwynodd Playfair gyfres o siartiau cylch; mae un o'r siartiau hynny'n dangos cyfrannedd yr Ymerodraeth yr Otomaniaid a leolwyd yn Asia, Ewrop ac Affrica cyn 1789. Ni ddefnyddiwyd y ddyfais hon yn eang ar y dechrau.

Amrywiadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Wilkinson, p. 23.
  2. Tufte, t. 178.
  3. van Belle, p. 160–162.
  4. Stephen Few. "Save the Pies for Dessert", Awst 2007, Adalwyd 2010-02-02
  5. Steve Fenton "Pie Charts Are Bad" Archifwyd 2015-06-30 yn y Peiriant Wayback
  6. Tufte, t. 44
  7. Spence (2005)
  8. Cerrig Milltir yn Hanes Cartograffeg Thematig, Graffeg Ystadegol, a Delweddu Data