Cerdd Dafod

(Ailgyfeiriad o Canu caeth)

Cerdd Dafod yw'r grefft o brydyddu neu gyfansoddi barddoniaeth Gymraeg mewn cyferbyniaeth â Cherdd Dant (celfyddyd y cerddor). Enw arall arni yw Cerddwriaeth.

Hen ystyr y gair 'cerdd' oedd "crefft" neu "gelfyddyd", ond disodlwyd y gair yn yr ystyr honno gan y gair benthyg 'crefft' yn yr Oesoedd Canol (ceir 'cerdd' yn golygu 'crefft' yn Culhwch ac Olwen ond y gair benthyg 'crefft' a geir yn hytrach na 'cherdd' ym Mhedair Cainc y Mabinogi, sy'n ddiweddarach).

Er bod y term yn hen, Syr John Morris-Jones oedd y person cyntaf i ddosbarthu rheolau'r grefft yn ei gyfrol bwysig Cerdd Dafod, a gyhoeddwyd yn 1925.

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.