Tref yng nghanol Québec, Canada yw Cap-Rouge, ar lannau gogleddol Afon St Lawrence. Yn wreiddiol, roedd yn dref annibynnol, ond ymgorfforwyd o fewn dinas Québec yn 2002. Erbyn heddiw, mae'n rhan o fwrdeistref Laurentien. Poblogaeth Cap-Rouge yn 2002 oedd 14,163 o drigolion.

Cap-Rouge
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlsgist, pentir Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,700 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLangewiesen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSainte-Foy–Sillery–Cap-Rouge Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd6.81 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon St Lawrence, Rivière du Cap Rouge Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSainte-Foy, Sillery, Aéroport, Saint-Augustin-de-Desmaures Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.7583°N 71.3542°W Edit this on Wikidata
Map

Ceisiodd Jacques Cartier sefydlu'r dreflan barhaol Ewropeaidd gyntaf yng ngogledd America ar safle presennol Cap-Rouge ym 1541. Goroesodd treflan Charlesbourg-Royal am flwyddyn o 1541 hyd yr haf o 1542, dan ddioddef gaeaf caled o achos tywydd llym ac ymosodiadau gan yr Iroquoiaid brodorol yn Stadacona. Yn2006 darganfuwyd olion y dreflan gan archaeolegwyr Canadaidd, gan gynnwys crochenwaith faïence Eidalaidd o'r cyfnod, sy'n cadarnhau presenoldeb Ewropeaid ar y safle.

Dolenni allanol

golygu

Adroddiad am ddarganfyddiadau archaeolegol yn Cap-Rouge Archifwyd 2006-10-10 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)

  Eginyn erthygl sydd uchod am Québec. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.