Cap-Vert
Penrhyn yn Senegal yw Cap-Vert, sy'n ffurfio pwynt mwyaf gorllewinol cyfandir Affrica, 7,400 km (4,600 milltir) o benrhyn Ras Hafun i'r dwyrain. Cafodd ei alw yn Cabo Verde ("Y Penrhyn Gwyrdd") gan fforwyr Portiwgalaidd, ac ni ddylir ei gymysgu ag ynysoedd Cabo Verde, sy'n gorwedd 560 km ymhellach i'r dwyrain. Lleolor Dakar, prifddinas Senegal, ger ei ben deheuol.
Math | pentir, gorynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | gwyrdd |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dakar |
Gwlad | Senegal |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 14.7447°N 17.5203°W |
Mae Cap-Vert yn benrhyn creigiog ond mae ganddo harbwr da, gyferbyn Ynys Gorée. Y Lebou yw'r brodorion. Sefydlwyd Dakar ar y penrhyn gan y Ffrancod yn 1857.