Cap marwol

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Fungi
Rhaniad: Basidiomycota
Dosbarth: Agaricomycetes
Urdd: Agaricales
Teulu: Amanitaceae
Genws: Amanita
Rhywogaeth: A. phalloides
Enw deuenwol
Amanita phalloides
(Vaill. ex Fr.) Link

Ffwng gwenwynig o'r genws Amanita yw'r cap marwol (Amanita phalloides). Mae'n gynhenid i Ewrop a gogledd-orllewin Affrica ac mae wedi cael ei gludo yn ddamweiniol i rannau eraill o'r byd. Mae'n tyfu o dan coed, yn arbennig derw a ffawydd.

Mae'n mesur 5–15 cm ar draws y cap sy'n wyrdd golau. Mae'r goes yn wen ac yn cyrraedd taldra o 15 cm. Mae gan y goes fodrwy o'i chwmpas a gorchuddiwyd gwaelod y goes gan goden a adwaenir fel folfa.

Un o'r ffyngau mwyaf gwenwynig yn y byd yw'r cap marwol. Mae'n cynnwys sawl tocsin megis α-amanitin sy'n niweidio'r afu a'r arennau.

Cyfeiriadau golygu