Capel Garmon

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy

Pentref yng nghymuned Bro Garmon, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Capel Garmon.[1][2] Saif yn ne-ddwyrain Dyffryn Conwy, ychydig i'r dwyrain o Betws y Coed, ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae tafarn, ysgol gynradd a chapel yn y pentref.

Capel Garmon
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0846°N 3.7727°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH813555 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Hanes a hynafiaethau

golygu

Darganfuwyd Brigwrn Capel Garmon ym mis Mai 1852 ar dir ger fferm Carreg Goedog. Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Tybir ei fod yn dyddio o tua 50CC - 50OC.[3]

Ger y pentref mae siambr gladdu Capel Garmon, sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig ac o ddiddordeb arbennig fel esiampl o'r Beddrodau Hafren-Cotswold. Yn ne-ddwyrain Cymru ac ardaloedd cyfagos i Loegr mae'r rhan fwyaf o'r rhain i'w cael.

Roedd yr eglwys yn wreiddiol yn gapel anwes, wedi ei gysegru i Sant Garmon. Ni ddaeth Capel Garmon yn blwyf hyd 1927.


Pobl o Gapel Garmon

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. H. N. Savory, Guide Catalogue of the Early Iron Age Collections (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1976)
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.