Anghydffurfiaeth

pobl a ymneilltuodd oddi wrth yr eglwys yng Nghymru neu Loegr
(Ailgyfeiriad o Ymneilltuaeth)

Anghydffurfiaeth neu ymneilltuaeth yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio Cristnogion sy'n gwrthod cydymffurfio ag athrawiaeth ac arferion Eglwys Sefydledig.

Anghydffurfiaeth
Enghraifft o'r canlynolenwad crefyddol Edit this on Wikidata

Daeth Anghydffurfiaeth i fod yn sgil y Diwygiad Protestannaidd yn y 16g. Yng ngwledydd Prydain arferir yr enw ar gyfer safle ac athrawiaeth enwadau fel y Methodistiaid (Calfinaidd a Wesleaidd), yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, ynghyd â rhai o'r enwadau llai uniongred megis y Crynwyr a'r Undodiaid.

Gorwedd Anghydffurfiaeth rhwng Pabyddiaeth ar y naill law a Phiwritaniaeth ar y llall. Cred yr Anghydffurfwyr fod yr Eglwys Sefydledig wedi gwyro oddi ar lwybr yr Eglwys Fore. Seiliant eu hawdurdod ar y Beibl.

Y Cymro Anghydffurfiol cyntaf o bwys oedd John Penry, a ferthyrwyd ym 1593. Yr eglwys Anghydffurfiol gyntaf yn y wlad oedd honno yn Llanfaches (Sir Fynwy) a sefydlwyd gan Annibynwyr a Bedyddwyr ym 1639.

Ym myd gwleidyddiaeth tueddai'r Anghydffurfwyr cynnar i osgoi ymyrryd yn uniongyrchol yn y byd a'i bethau (heblaw am faterion eglwysig). Am gyfnod gellid dweud bod Ymneilltuaeth Gymreig wedi bod yn geidwadol ond erbyn y 19g dechreuai Ymneilltuwyr chwarae rhan gynyddol bwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad ac erbyn ail hanner y ganrif honno tueddai'r achos Ymneilltuol i fod ynghlwm wrth Radicaliaeth a'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth (neu Ymreolaeth) i Gymru. Un o ganlyniadau hyn oedd ffurfio mudiadau radicalaidd fel Cymru Fydd a chwyddo'r gefnogaeth i Ryddfrydiaeth.

Roedd cyfraniad awduron Anghydffurfiol i lenyddiaeth Gymraeg yn sylweddol iawn, ac er i'r enwadau dueddu i fod yn gul eu gorwelion llenyddol (yn erbyn y nofel, er enghraifft), esgorodd Anghydffurfiaeth ar rai o lenorion pwysicaf y Gymraeg, fel Morgan Llwyd, Ann Griffiths, William Williams Pantycelyn, Daniel Owen ac Owen Morgan Edwards.

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth ddethol

golygu
  • James Evans (gol.), Dylanwad Ymneilltuaeth ar Fywyd y Genedl (1913)
  • R.I. Parry, Ymneilltuaeth (1962)