Capel Lligwy
Eglwys ganoloesol ar Ynys Môn yw Capel Lligwy (hefyd: Capel Llugwy neu Hen Gapel Lligwy). Fe'i lleolir ger Moelfre yng ngogledd-orllewin yr ynys, ger siambr gladdu gynhanesyddol Lligwy a phentref caerog Din Lligwy.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Moelfre |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 57.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.3524°N 4.2564°W |
Rheolir gan | Cadw |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth ganoloesol |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN056 |
Codwyd y capel ar dir uchel uwchlaw Traeth Lligwy yn y 12g, a hynny yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd, brenin Gwynedd, yn ôl pob tebyg. Yn y 14g ailadeiladwyd rhan uchaf y muriau a gosod to newydd: gellir gweld y gwahaniaeth rhwng cerrig y muriau isaf a'r rhai newydd a osodwyd arnynt.[1]
Yn yr 16g, ychwanegwyd capel i'r de o'r prif adeilad. Ceir claddgell (crypt) 8'x8' o dan y capel gyda grisiau carreg yn arwain i lawr iddi. Yn ymyl yr egwys ceir maen gyda thwll ar ei ben a fu'n sylfaen croes garreg yr eglwys ar un adeg. Mae'r eglwys a'r tir o'i chwmpas yn cael eu hamgau gan furiau'r llan.[1]
Mae'r eglwys - a elwir yn 'gapel' am ei bod yn is-eglwys yn perthyn i reithoriaeth arall - yn adfail erbyn hyn, heb do. Mae'n heneb gofrestredig sydd yng ngofal Cadw.