Moelfre, Ynys Môn

pentref a chymuned yn Ynys Môn

Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Moelfre[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar arfordir dwyreiniol yr ynys tua hanner y ffordd rhwng Benllech ac Amlwch. Pysgota oedd prif weithgaredd y trigolion yn y gorffennol, ond yn awr mae'n bentref gwyliau pur boblogaidd. Gellir olrhain yr enw Moelfre yn ôl i Lyfr Doomsday Cymru yn 1306. Mae yno harbwr bychan, a heb fod ymhell o'r pentref mae ynys fechan, Ynys Moelfre. Gellir dilyn Llwybr Arfordirol Ynys Môn trwy'r pentref. Mae yna 1,064 o pobol yn byw yn Moelfre yn ôl cyfrifiad 2011.Cynhelir nosweithiau cerddoriaeth ym Moelfre lle mae pawb yn dod i lawr i'r traeth i ddawnsio a chanu. Mae gweithgareddau fel peintio wynebau a chwythu swigod ar gael hefyd. Mae yna sawl caffi yn Moelfre fel Ans Pantry a'r tŷ tafarn y Kimmel Arms.

Moelfre
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3539°N 4.2347°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000031 Edit this on Wikidata
Cod OSSH513864 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Moelfre.
Cofeb Dic Evans, Moelfre

Y môr golygu

Mae Moelfre yn adnabyddus fel y man lle drylliwyd y llong Royal Charter yn Hydref 1859 tra'n hwylio o Awstralia i Lerpwl. Drylliwyd hi ar y creigiau rhwng y pentref a Thraeth Lligwy, ac mae cofeb yn nodi'r fan. Bu farw tua 450 o bobl; y nifer mwyaf i farw mewn unrhyw longddrylliad ar draethau Cymru. Bron yn union gan mlynedd yn ddiweddarach drylliwyd llong arall, yr Hindlea bron yn union yn yr un fan. Y tro hwn achubwyd y criw i gyd gan Bad achub Moelfre.

Daeth bad achub Moelfre yn enwog dan Richard (Dic) Evans (1905 – 2001), a enillodd nifer o fedalau am ei wrhydri yn achub bywydau. Mae cerflun efydd o Dic Evans gan Sam Holland i'w weld ger cwt y bad achub yn y pentref. Roedd Richard yn rhan o dîm bad achub Moelfre ers 1921. Yn 1954 daeth yn yrrwr y bad a pharhau i wneud hynny am y 16 blynedd nesaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw galwyd y bad achub i'r môr 179 o weithiau gan achub 281 o fywydau.

 
Moelfre a'r Môr - Ffarwel i'r Grassholm Gribog

Hanes golygu

Gerllaw Moelfre mae nifer o hynafiaethau diddorol, yn cynnwys siambr gladdu Lligwy (mae'r siambr gladdu hwn yn mynd yn ôl i'r 3ydd mileniwm CC) a Din Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ceir hefyd clwstwr cytiau caeedig Bwlch-y-Dafarn a chlwstwr cytiau Mynydd Bodafon gerllaw â Chapel Lligwy, sy'n dyddio o'r 12g. Mae yna fad achub o'r enw 'Kiwi' ac un bychan o'r enw Enfys 2. Y lliwiau ar gyfer Kiwi yw oren, glas ac gwyn ac ar gyfer Enfys 2 - oren ac gwyn.

Hefyd mae hanes y Royal Charter - cafodd 450 o pobol ei lladd ar y Royal Charter; cafodd llawer o nhw ei lladd ar y cerrig ac ar y llong pan oedd yn suddo neu boddi. Boddodd y Royal Charter yn 1859 ar Hydref 25.

Mae Ynys Dulas sydd yn wynebu'r môr, gyda'i thwr nodedig wedi'i adeiladu ym 1824 i stori bwyd damperau cysgod i forwyr a ddrylliwyd gan longau.

"Ynys Lygod" golygu

Honnai'r diweddar Robin Evans (Cymdeithas Morol), brodor o Foelfre, mai ei enw ef ar yr ynys oedd "Ynys Swnt" ac efallai ei bod hi'n cael ei chamenwi gan y Cymry yn "Ynys Moelfre", a chan y Saeson yn "Rat Island".[3] Ar fap gan Lewis Morris dyddiedig 1748 cofnodir yr enw Ynys Lygod oedd. Cofnododd William Morris o ardal Llaneilian mewn llythyr at ei frawd Lewis ym 1762 i'r perwyl hwn:

Mi wranta eich bod yn cynhafa eich llafur yn ffwdanllyd. Cawsom yma'n ddiweddar wlaw trwm iawn a gwyntoedd, ond y mae'r hin yn oer ac yn wyntiog er llês yr ŷd sydd ar lawr. Dyw Llun y bu ganwyf finau dri dyn yn Medi fy holl ŷd, a mawr nid ychydig oedd y drafferth: llygod Norwy yn ei ysu oddiar ei draed. Nid oedd mo'r genedl honno pan oeddech yn taring yn y Gaer einom, nid hwyrach mae gweddill y Llychlyniaid fyddai yn gormesu arom [felly] y dyddiau gynt i'w rhain.

Felly, beth oedd y llygod a roes eu henw ar Ynys Swnt yn oes y Morrisiaid: llygod bach Mus musculus, llygod ffyrnig Rattus norvegicus ("llygod Norwy" yn ôl WM, a oedd, yn ôl yr uchod, newydd gyrraedd Môn, ynteu llygod duon Rattus rattus - llygod y pla du sydd bron â mynd i ddifancoll erbyn hyn? Ynteu ai yn hytrach Ynys Lygod oedd glanfa gyntaf y llygoden ffyrnig (llygoden fawr) ym Môn?

Parc Moelfre golygu

Mae'r gan y parc siglen fasged, llithrennau mawr a bach, weiren wib a chwrs rhwystrau.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Moelfre (pob oed) (1,064)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Moelfre) (544)
  
52.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Moelfre) (544)
  
51.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Moelfre) (237)
  
48.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Papur bro golygu

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 45/46 (Rhagfyr 2011)
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.