Capel Pen-rhiw
capel wedi ail adeiladu yn Amgueddfa Sain ffagan
(Ailgyfeiriad o Capel Pen Rhiw)
Capel wedi'i dynnu i lawr o Drefach, Felindre, a'i ailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yw Capel Pen-rhiw (neu Gapel Penrhiw). Fe'i codwyd yn wreiddiol yn 1777 a chafodd ei symud a'i ailgodi yn 1956. Ymddengys mai ysgubor oedd yr adeilad yn wreiddiol, cyn ei addasu'n gapel gan yr Undodiaid yn 1777. Trwoyd y llofft uchaf yn oriel. Mae maint a siâp y corau (neu'r seddau) ar y llawr isaf yn amrywio gan gan iddynt gael eu hadeiladu'n wreiddiol ar gyfer teuluoedd o wahanol maint.[1]
Math | eglwys, capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Werin Cymru |
Lleoliad | Sain Ffagan |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 32.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.48775°N 3.27326°W |
Cod post | CF5 6DP |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cyfeiriadau
golygu