Dre-fach Felindre

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yng nghymuned Llangeler, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Dre-fach Felindre[1] neu Felindre.[2] Saif 4 milltir i'r de-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn.

Dre-fach Felindre
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.021°N 4.4°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN354385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAdam Price (Plaid Cymru)
AS/au y DUAnn Davies (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r enwau "Drefach" a "Felindre", gweler Dre-fach a Felindre.

Ar un adeg roedd yn ganolfan bwysig iawn i'r diwydiant gwlân, a cheir Amgueddfa Wlân Cymru yma.

Yma y ganed y bardd ac awdur Aneirin Talfan Davies.

Prosiect Hanes Lleol

golygu

Yn 2013 penderfynwyd paratoi ‘Prosiect Hanes Cymdeithasol Dre-fach Felindre’ a’i alw yn Stori Fawr Dre-fach Felindre.  Casglwyd pob agwedd o hanes yr ardal yn ystod yr 20g a’i gyhoeddi ar y wefan Casgliad y Werin Cymru. Penderfynwyd pwyllgor Stori Fawr Dre-fach Felindre i gomisiynu’r artistiaid enwog Meirion ac Aneurin Jones, Aberteifi, i baentio murlun o faint sylweddol, a fyddai’n adlewyrchu hanes y ddau bentref. Mae'r murlun gwreiddiol, yn cael ei arddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol. Trefnodd y pwyllgor ddigwyddiad yn y pentref ar Sadwrn, 4 Gorffennaf 2015 i gofio am Ellen Jones, Graigwen, Allt-pen-rhiw a ddychwelodd gyda’i thad o Batagonia i fyw yng Nghamwy yng nghanol pentref Felindre yn 1901. Gosodwyd plac glas ar fur Camwy i nodi hynny. Mae holl hanes rhamantus a dirdynnol Nel Fach y Bwcs wedi ei gofnodi yn y llyfr O Drelew i Dre-fach ac ar raglenni teledu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Rhagfyr 2021