Capel Seion, Aberystwyth
Capel enwad yr Annibynwyr[1] yw Capel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth. Ni ddylid ei ddrysu gyda phentref gyfagos o'r un enw, Capel Seion. Gelwir y capel yn aml ar lafar, fel Capel Seion, Baker Street.
Lleoliad
golyguLleolir Capel Seion yng nghanol tref Aberystwyth ar Stryd y Popty. Mae'n gapel sylweddol o ran maint
Hanes
golyguAdeiladwyd y Capel gyntaf ym 1814/5, ond fe'i hailadeiladwyd yn ddiweddarach i ddyluniad Richard Owens o Lerpwl ym 1878 a'i haddasu drachefn yn 1903 ac ar ôl 1908.[2]
Fe'i hadeiladwyd ar safle trefol caeedig ac yn yr arddull Clasurol Eidalaidd, gyda dwy lawr ynghyd ag islawr. Mae ffasâd y talcen o waith maen rwbel wedi ei dorri gyda dresin breiniog wedi'i baentio.
Nodweddion Hanesyddol
golyguYn 1987 sefydlwyd y drefn o recordio oedfaon ar gyfer aelodau na allant fynychu oedfaon.[3]
Yn 1989 syrthiodd darn sylweddol o nenfwd y Capel a bu oedfaon yn cael eu cynnal yn y festri hyd Mai 1990, pryd yr ail agorwyd y Capel. Costiodd y gwaith atgyweirio gyfanswm o £9,450.
Yn 1991 mentrwyd arbrofi trwy gynnal Ysgol Sul y plant yn ystod Oedfa’r Bore, gyda’r plant yn y gynulleidfa hyd at ddiwedd yr ail emyn a chyfle i’r Gweinidog, neu bregethwr arall ar ei dro, i roi anerchiad neu stori iddynt, cyn iddynt ymneilltuo i’r Festri. Daeth hwn yn drefniant parhaol.
Yn 1998 sefydlwyd y Cwrs Alffa[4] ar aelwyd Bronallt.
Trefn y Gwasanaethau
golygu- 10.00 Oedfa yr Ysgol Sul. Rhoddir anerchiad gan y Gweinidog
- 6.00 Oedfa’r hwyr
Gweinidog a chyn-weinidogion
golygu- Y Parch. Gwilym Tudur.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://seionaberystwyth.cymru/ein-hanes/amlinelliad-byr-o-hanes-yr-annibynwyr/
- ↑ http://www.coflein.gov.uk/cy/site/7147/details/seion-welsh-independent-chapel-baker-street-aberystwyth
- ↑ https://seionaberystwyth.cymru/ffeiliau-mp3/[dolen farw]
- ↑ https://seionaberystwyth.cymru/teulu-seion/y-cwrs-alffa/[dolen farw]