Richard Owens (pensaer)

pensaer Cymreig

Roedd Richard Owens neu Richard Owen (183124 Rhagfyr 1891) yn bensaer Cymreig a weithiai, gan fwyaf, yn Lerpwl. Roedd yn un o benseiri mwyaf toreithiog capeli Cymreig[1] a thai teras yn Lerpwl. Yn ôl yr hanesydd Dan Cruickshank Roedd Owens mor llwyddiannus gallai bod yn gyfrifol am (gynllunio) mwy o dai teras ym Mhrydain Oes Victoria na neb arall.[2]

Richard Owens
Ganwyd1831 Edit this on Wikidata
Y Ffôr Edit this on Wikidata
Bu farw24 Rhagfyr 1891 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu
 
Plas Bell, y Ffôr, Pwllheli – cartref Richard Owen.

Ganwyd Owens ym Mhlas Bell, y Ffôr, Pwllheli yn fab hynaf Griffith Owens, saer coed, a Catherine ei wraig[3].

Wedi cyfnod o addysg elfennol dysgodd grefft y saer wrth draed ei dad. Ym 1851 yn ŵr ugain oed aeth i Lerpwl i weithio fel clerc ac yna fel fforman i gwmni John Jones, adeiladydd, yn Everton.

Ymfudodd John Jones i'r UDA a symudodd Owens i gwmni Williams & Jones, Castle Street, Lerpwl, cwmni oedd yn prynu tir gwledig o amgylch hen dref Lerpwl er mwyn ei werthu i ddatblygwyr tai. Ei brif ddyletswyddau i gwmni Williams a Jones oedd mesur tir a dylunio cynlluniau.[4]

Tra'n gweithio yn ystod y dydd, bu Owens hefyd yn mynychu dosbarthiadau nos yn y Sefydliad Peirianyddol er mwyn dysgu rhagor am bensaernïaeth a chynllunio.

 
Capel Fitzclarence Street

Dechreuodd Owens weithio fel pensaer ar ei liwt ei hun ym 1862, ymysg ei gontractau cyntaf roedd adeiladu addoldy newydd ar gyfer cynulleidfa Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg Rose Place, Lerpwl yn Fitzclarence Street, lle roedd yn aelod; y capel Cymraeg mwyaf costus (o ran gwerth cyffelyb hanesyddol) i'w adeiladu yn hanes Anghydffurfiaeth Gymreig.[5] Wedi hynny aeth ati i gynllunio dros 250 o gapeli eraill i anghydffurfwyr Cymreig, o bob enwad, trwy Gymru a Lloegr, gan gynnwys capeli Baker Street, i'r Annibynwyr a'r Tabernacl i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth; Capel Ebeneser, Dolgellau ar gyfer y Wesleaid a Chapel Penuel, Llanrwst i'r Bedyddwyr.

Wrth weithio ar gynllunio Capel Mynydd Seion, Abergele ym 1867 daeth i gysylltiad â Chwmni David Roberts & Co, Lerpwl. Trwy gydweithredu â chwmni David Roberts, bu Owens yn gyfrifol am adeiladu dros 10,000 o dai teras yn ninas Lerpwl, yn arbennig rhai yn ardal Toxteth a alwyd The Welsh Streets gan fod nifer o'r strydoedd wedi'u henwi ar ôl trefi a phentrefi Cymreig megis Rhiwlas Street, Powis Street, Elwy Street ac ati.[6]. Ganwyd Ringo Starr yn un o'r Welsh Streets, sef 9 Madryn Street, a mynychodd ysgol ar Pengwern Street.

Personol

golygu

Ym 1858 priododd Margaret Roberts, merch Hugh Roberts, Llanfairfechan, bu iddynt 5 merch ac un mab.

Bu farw yn ei gartref, 'Rhianfa', Anfield Road, Lerpwl yn 60 mlwydd oed o ddolur y garreg (gall stones), a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym Mynwent Anfield.

Oriel: Rhai o gapeli a strydoedd Owens

golygu
 
Capel Ebeneser (yr Annibynwyr; 1861), Trefriw
Capel Ebeneser (yr Annibynwyr; 1861), Trefriw 
 
Capel Engedi (y Methodistiaid Calfinaidd; 1867) Caernarfon
Capel Engedi (y Methodistiaid Calfinaidd; 1867) Caernarfon 
 
Capel Mynydd Seion (y Methodistiaid Calfinaidd, 1868), Abergele
Capel Mynydd Seion (y Methodistiaid Calfinaidd, 1868), Abergele 
 
Capel Dinmael (y Methodistiaid Calfinaidd, 1868)
Capel Dinmael (y Methodistiaid Calfinaidd, 1868) 
 
Capel Seion (yr Annibynwyr, 1878), Stryd y Popty, Aberystwyth
Capel Seion (yr Annibynwyr, 1878), Stryd y Popty, Aberystwyth 
 
Capel y Maes (Presbyteriaid, 1882–83), Caernarfon
Capel y Maes (Presbyteriaid, 1882–83), Caernarfon 
 
Voelas Street, Lerpwl
Voelas Street, Lerpwl 
 
Rhiwlas Street, Lerpwl
Rhiwlas Street, Lerpwl 

Cyfeiriadau

golygu
  1. Capeli Cymru: Richard Owens adalwyd 31 Mai 2016
  2. BBC 4 Dan Cruickshank: At Home with the British Pennod dau The Terrace, darlledwyd gyntaf 26 Mai 2016
  3. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1851 Plas Bel, Abererch; Cyf: HO7/2513; Ffolio 124; Tud:1
  4. "Notitle - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1891-12-31. Cyrchwyd 2016-05-31.
  5. Tud 4 Rhif 38 o Capel, Cylchgrawn Cymdeithas Treftadaeth y Capeli Archifwyd 2013-07-17 yn y Peiriant Wayback adalwyd 31 Mai 2016
  6. Farewell Liverpool's Welsh streets Wales on line adalwyd 31 Mai 2016