Stryd y Popty, Aberystwyth
Stryd yng nghanol tref Aberystwyth yw Stryd y Popty (Saesneg: Baker Street).
Math | stryd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberystwyth ![]() |
Gwlad | ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5a/Capel_Seion%2C_Stryd_y_Popty%2C_Aberystywth_2.jpg/220px-Capel_Seion%2C_Stryd_y_Popty%2C_Aberystywth_2.jpg)
Hanes
golyguGorwedd y stryd i'r gogledd y tu hwnt i hen ffin ganoloesol y dre rhwng y Stryd Fawr (Great Darkgate Street) a Stryd y Porth Bach.
Adeiladwyd y stryd yng nghanol y 19g a cheir cofnod ohoni yn 1843.[1]
Nodweddion y stryd
golyguMae'r stryd yn sefyll ar lethr sy'n gwyro i lawr at gyfeiraid y gogledd. Er gwaethaf y ffaith ei bod ynghanol y dref, mae'r stryd yn gymharol dawel gan nad oes siopau arni a ceir cilfan bychan i barcio yn ei chanol.
Ceir dau gapel fawr ar y stryd:
- Capel Bethel (enwad y Bedyddwyr)
- Capel Seion (enwad Yr Annibynwyr)
- Canolfan aml-ddefnydd sy'n cynnwys swyddfa Cyngor Tref Aberystwyth
- swyddfeydd a mân fusnesau eraill
Ceir hefyd man parcio beics sy'n cynnwys pwmp am ddim at ddefnydd beiciau. Ariannwyd y pwmp gan Lywodraeth Cymru.
Ar gornel ddwyreiniol y stryd yn ffinio gyda Sgwâr Owain Glyndŵr ceir mynedfa i adeilad Banc y NatWest.
Ymysg rhai o'r bobl noddwediadol bu'n byw yn y stryd mae'r athronydd Leopold Kohr ac awdur The Breakdown of Nations bu'n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1968 ac 1977.