Capel Soar, Llanbadarn Fawr

capel yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

Capel enwad Yr Annibynwyr yw Capel Soar Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.

Capel Soar
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.409414°N 4.058739°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 3SE Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadAnnibynwyr Edit this on Wikidata

Lleoliad golygu

Mae'r Capel wedi ei lleoli ar Riw Briallu, Llanbadarn Fawr, sydd rhy filltir o ganol tref Aberystwyth. Mae Rhiw Briallu yn allt serth sy'n arwain i'r gogledd allan o bentref Llanbadarn Fawr at bentrefi Penrhyn-coch a Chommins Coch ac yna, ymlaen at Dal-y-bont a Machynlleth.

Hanes golygu

Dechreuwyd ar waith adeiladu'r Capel yn 1801, fe'i gorfenwyd yn 1803, ei helaethu yn 1830 ac haddasu yn 1892.[1]

Ceir cofnod o hanes cynnar y capel yn llyfr Thomas Rees a John Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (4 cyfrol) a argraffwyd yn 1871 ymlaen.[2]

Yng nghyfrol 4, tudalen 118-119 nodir

"Mae y lle hwn o fewn milldir i Aberystwyth. Yma y corpholwyd yr eglwys Annibynnol gyntaf yn y rhanbarth yma o'r sir. Dechreuwyd pregethu yma mewn ty anedd yn nghanol y dreflan, gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn 1801. Cynorthwywyd ef gan eraill o weinidogion a phregethwyr yr enwad, a chyn hir cymerwyd ty bychan yn mhen gogleddol y pentref ar ardreth, a threfnwyd ef oreu gellid at gynal gwasanaeth crefyddol ynddo. Corpholwyd yma eglwys yn 1802, cynwysedig o un-ar-ddeg o aelodau. Roedd Dr. Phillips a Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn bresenol ar yr achlysur, a gweinyddwyd yma yr ordinhad o swper yr Arglwydd am y waith gyntaf. Er mai ar Dr. Phillips yr oedd y gofal yn benaf, etto cynorthwyid ef gan eraill, ac yn enwedig, ni ddylid esgeuluso crybwyll enwau yr efengylwyr ffyddlon Rhys Daries a John Thomas, Glynarthen, y rhai nid yn unig yma, ond hefyd mewn rhanau eraill o'r wlad, a fuont o help mawr i gychwyn a sefydlu achesion.

Arferid cynal Gwylmabsant yn Llanbadarn ar ddydd Llun y Pasg bob amser, i'r hwn y cyrchai yr holl wlad oddiamgylch, a rnawr yr annuwioldeb a'i dilynui, ac er mwyn gwrthweithio dylanwad niweidiol y cynulliadau llygredig hyny, dechreuodd Dr. Phillips, ac eraill, bregethu yn y lle ar y diwrnod hwnw, a llwyddodd yr efengyl yn raddol i roddi uchel-wyliau annuwioldeb yn yr ardal i lawr. Dyna a fu yn gychwyniad i gyfarfod y Pasg, yr hwn sydd wedi ei gynal o'i pryd hwnw hyd yn awr, ond ei fod er's blynyddau wedi ei symud o ddydd Llun yn nes i ganol yr wythnos

Yn 1804, cafwyd darn o dir at adeiladu capel arno, yr hwn a alwyd yn Zoar.

Yn 1806, symudodd Mr. Azariah Shadrach yma o Lanrwst, i fod yn weinidog yma ac yn Nhalybont, a bu yn llafurio yma gyda llwyddiant mawr am yn agos i ddeunaw mlynedd, a phan y rhoddodd yr achos i fyny, gwnaeth hyny fel y gallai ymgyflwyno yn llwyrach i wasanaethu yr achos newydd a gychwynwyd ganddo yn nhref Aberystwyth. Bu cychwyniad yr achos yno yn dipyn o wanychdod i'r achos yma, ond daliodd ei dir er hyny, a chyn hir adnewyddodd ei nerth. Rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Rees, myfyriwr yn athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Medi 22ain, 1825. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri T. Phillips, Neuaddlwyd; H. George, Brynberian; Ll Rees, Trewyddel, (tad yr urddedig); W. Jones, Rhydybont; D. Davies, Aberteifi; T. Griffiths, Hawen; D. Thomas, Penrhiwgaled; M. Rees, Pencadair, ac eraill. Roedd canghennau cyn hyn wedi eu sefydlu yn Dyffrynpaith a Clarach, i'r rhai hefyd yr oedd Mr. Rees i weinyddu.

Yn 1827, rhoddwyd eisteddleoedd cyfleus yn y capel, ac yn mhen tair blynedd wedi hyny helaethwyd ef, a rhoddwyd oriel ynddo. Daeth yma gynnulleidfa lled luosog, ac er na chyfrifid yr eglwys yn gyfoethog yn ei hamgylchiadau bydol, etto yr oedd yma lawer o bobl ffyddlawn a gweithgar gyda chrefydd. Llafuriodd Mr. Rees yma yn ddiwyd a chyson am saith-mlynedd-a-deugain, ond yn y ddwy flynedd ddiweddaf y mae ei iechyd wedi gwaelu yn fawr, fel nad ydyw yn gallu cyflawni ei weinidogaeth fel cynt, ond y mae etto yn aros mewn cysylltiad a'r eglwys. Nid ydym wedi cael enwau neb o hynodrwydd a fu yn nglyn a'r eglwys hon, ac nid anfonwyd i ni enw neb a godwyd yma i bregethu."

Defnydd cyfredol golygu

Mae'r Capel yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau crefyddol. Cynhelir hefyd digwyddiadau allanol. Bydd Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr yn cynnal ei cyfarfodydd yno.

Cyfeiriadau golygu

Oriel golygu