Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth
Mae adeilad yr Hen Goleg ar rodfa’r môr yn Aberystwyth yn adeilad rhestredig Gradd I[1] ac yn eiddo i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n enghraifft o adeilad yn yr arddull neo-gothig o’r 19g. Yr adeilad hwn oedd yr adeilad cyntaf i'w brynu yn yr ymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru. Erbyn 2014 mae’r rhan fwyaf o weithgareddau’r coleg wedi cael eu symud o’r adeilad hwn, ac mae cynlluniau ar y gweill i addasu’r adeilad at ddefnydd newydd.[2]
Math | adeilad prifysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9.4 metr |
Cyfesurynnau | 52.4149°N 4.08827°W |
Arddull pensaernïol | Gothig Blodeuog |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguYr adeilad cyntaf i’w adeiladu ar y safle hwn oedd Castle House. Cynlluniwyd yr adeilad gan John Nash ar gais Syr Uvedale Price, a fynnai adeiladu tŷ pictiwrésg i’w wraig. Adeiladwyd y tŷ tua 1795[3] ar ffurf triongl gyda thyrrau wythonglog ar bob pen iddo. Gwerthwyd yr adeilad sawl gwaith hyd y 1860au a’i ehangu yn y steil gwreiddiol. Erbyn hynny roedd dyfodiad y rheilffordd wedi denu nifer o wŷr busnes i ddechrau datblygu Aberystwyth yn le gwyliau. Yn eu plith roedd Thomas Sevin, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r rheilffordd o Fachynlleth i Aberystwyth. Prynodd Castle House a mynd ati i’w ehangu a’i droi’n westy modern, moethus, gan gyflogi J. P. Seddon yn 1864 i gynllunio’r gwaith. Roedd yn ras wyllt arno i gwblhau’r gwaith adeiladu er mwyn gallu agor y gwesty. Oherwydd hyn, roedd y llu o weithwyr a gyflogwyd yn bwrw iddi’n gyflymach nag y gallai J. P. Seddon ddarparu cynlluniau manwl iddynt. Cyflogwyd dylunwyr i wneud cynlluniau wedi eu seilio ar fodel pren o waith J. P. Seddon. Mae ôl y brysio hwn i’w weld ar y cerrig, rhai cerfiedig a rhai heb eu cerfio, sydd i’w gweld ochr yn ochr ar fwa maen tu fewn i’r adeilad. Erbyn mis Mehefin 1865 roedd digon o waith wedi ei wneud i allu agor y Castle Hotel i ymwelwyr, wedi ei oleuo trwy ynni nwy. Ond roedd sefyllfa ariannol J. P. Seddon yn rhy fregus iddo gwblhau’r gwaith datbygu. Ar ôl gwario £80,000 ar y Castle Hotel, bu’n rhaid iddo rhoi’r gorau iddi a cheisio ei werthu.
Roedd prinder darpariaeth addysg bellach yng Nghymru yr adeg honno. Roedd Hugh Owen yn arwain yr ymdrech i sefydlu prifysgol i Gymru. Gyda chefnogaeth brwd y capeli anghydffurfiol, fe gasglwyd arian o bocedi gwerin Cymru, gan ddechrau gyda chwarelwyr gogledd Cymru. Erbyn canol 1865 roedd £5,000 wedi ei gasglu. Bachodd pwyllgor Hugh Owen y cyfle i brynu adeilad y Castle Hotel, gan dalu £10,000 amdano ym mis Mawrth 1867. Rhaid oedd casglu rhagor o arian eto cyn gallu agor y ‘Coleg Ger y Lli’ ar y safle hwn yn 1872. O hynny ymlaen byddai hanes yr adeilad yn rhan anatod o hanes coleg Aberystwyth. Gwelodd yr adeilad sawl achlysur mawreddog, gan gynnwys dathlu sefydlu Prifysgol Cymru drwy siarter frenhinol yn 1896 ym mhresenoldeb Tywysog Cymru a llu o fawrion.
Ym mis Mehefin 1885 niweidiwyd yr adeilad gan dân a laddodd tri o’r rhai a fu’n ymladd y tân. Ond ail-adeiladwyd ac wrth bod y coleg yn ehangu ac yn datblygu, cafwyd newidiadau i’r adeilad. Codwyd arian yn 1890 i ddodrefnu Llyfrgell y Coleg. Yn 1893 gosodwyd to ar ben y clos yng nghanol yr adeilad, gan ffurfio cwadrangl. Dymchwelwyd y darn gwreiddiol o’r adeilad o ddyddiau Castle House ym 1897.[4] Adeiladwyd bloc yn steil y Frenhines Anne yn ei le, yn ôl cynlluniau C. J. Ferguson,[5] i’w ddefnyddio’n bennaf gan adrannau’r gwyddorau gwyddonol.
Buan iawn y tyfodd nifer y myfyrwyr a’r pynciau y cynigiwyd iddynt yn fwy nag y gellid eu dysgu yn yr adeilad hon. Erbyn diwedd y 19g roedd y coleg wedi dechrau prynu tir ac adeiladau eraill er mwyn ehangu. Yn y 1960au a’r 1970au adeiladwyd campws newydd ar riw Penglais, gan drosglwyddo mwy a mwy o’r gwaith dysgu o’r ‘Hen Goleg’, gan adael y gwaith gweinyddu yno.[6] Erbyn 2014 symudwyd y rhan fwyaf o'r gwaith gweinyddu oddi yno hefyd, gan adael yr Hen Goleg i ddisgwyl cael hyd i ddefnydd newydd unwaith eto.
Ail-fywyd
golyguYn dilyn symud adrannau'r Brifysgol i gyd i'r campws ar Riw Penglais, ceisiwyd canfod rôl newydd i'r Hen Goleg. Yn 2016 gwnaed cais am arian o gronfa'r Loteri gan Brifysgol Aberystwyth i adfer yr adeilad a dod â bywyd newydd iddi.[7]. Bu'r cais yn llwyddiannus a datgelwyd ym mis Gorffennaf 2017 bod y Brifysgol am dderbyn £10.5m gan y Loteri i ad-newyddu a datblygu'r adeilad.[8] Mae'r arian yn rhan o adferiad, fydd yn costio cyfanswm o tua £22m, i droi'r Hen Goleg yn ofod artistig a pherfformio, gyda chaffi ac ystafelloedd cymunedol yn ogystal ag amgueddfa'r brifysgol.
Cerfluniau
golyguMae dau gerflun yn sefyll tu allan i’r adeilad wrth ymyl rhodfa’r môr:
- Cerflun efydd, o waith Mario Rutelli, o Edward, Tywysog Cymru yn 1922, a oedd hefyd yn Ganghellor Prifysgol Cymru.[9] Torrwyd pen y cerflun yn 1976 a’i adael yng nghastell Aberystwyth.[10]
- Cerflun efydd, o waith Goscombe John, o Thomas Charles Edwards, prifathro cyntaf y coleg[11]
Yn y cwad tu fewn saif dau gerflun arall:
- Cerflun efydd o Thomas Edward Ellis AS gan Goscombe John (1903)
- Cerflun efydd o'r Gwir Anrhydeddus Henry Austin, Barwn Aberdâr, canghellor cyntaf Prifysgol Cymru
Mosäig
golyguCynlluniwyd y mosäig ar fur allanol y pen deheuol gan C. F. A. Voysey. Archimedes a ddangosir yn y panel canol.[12]
Llyfryddiaeth
golygu- W. J. Lewis, Born on a Perilous Rock, tt. 171–180, The Cambrian News (Aberystwyth) Ltd (1980)
- D. Ellis, The College by the Sea (1928), tt. 29–46
Dolenni allanol
golygu- https://www.youtube.com/watch?v=g0xghD2LT6E Defnyddiwr:Lloffiwr yn darllen fersiwn cynharachhttps://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hen_Goleg_Prifysgol_Aberystwyth&oldid=1618353) o'r erthygl hon.
- Coflein[dolen farw]
- British Listed Buildings
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Coflein; Archifwyd 2013-01-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Mehefin 2014; Rhif Cadw: NPRN 96582.
- ↑ Bywyd Newydd i'r Hen Goleg. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ University College of Wales Old College Building, Aberystwyth. www.britishlistedbuildings.co.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ Castle House Hotel; Old College, University of Wales, Aberystwyth. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ W. J. Lewis, Born on a Perilous Rock, tt. 171–180, The Cambrian News (Aberystwyth) Ltd (1980)
- ↑ https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/06/title-185179-cy.html
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40720454
- ↑ Prince of Wales Statue, New Promenade, Aberystwyth. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ Duke's Head is Back in Business. Cambrian News. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ Thomas Edwards Statue, New Promenade, Aberystwyth. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
- ↑ University of Wales Old College Building, Aberystwyth. www.britishlistedbuildings.co.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.