Capel y Plough
Capel hanesyddol yn Aberhonddu, Powys, yw Capel y Plough. Yn yr 17eg ganrif cynhelid oedfaon gan gynulleidfa annibynnol yn Aberllynfi, 10 milltir o Aberhonddu, ond ar ddiwedd y ganrif symudon nhw i'r dref ar ôl iddyn nhw brynu "Plow-House" yn y stryd a elwir yn "Lion Street" heddiw.[1] Mae'n bosibl mai tafarn oedd yr adeilad cyn hynny.[2]
Math | capel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberhonddu, Aberhonddu |
Sir | Aberhonddu |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 138.1 metr |
Cyfesurynnau | 51.9468°N 3.38885°W |
Cod post | LD3 7GA |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Derbyniodd yr adeilad drwydded fel addoldy i Ymneilltuwyr yn 1699. Adeiladwyd y tŷ cwrdd cyntaf rhwng 1728 a 1733. Ailadeiladwyd y strwythur yn 1841, yna eto yn 1892.[3]
Cymraeg oedd iaith y capel tan diwedd y 19g, ond roedd rhai oedfaon Saesneg hefyd wedi hynny. Yn 1923 ymgyfunodd Capel y Plough â Chapel Glamorgan Street, eglwys Saesneg yr Annibynwyr, er mwyn ffurfio capel dwyieithog Eglwys Gynulleidfaol Unedig y Plough. Erbyn heddiw mae'r capel yn aelod o Eglwys Ddiwygiedig Unedig.
Dynodwyd y capel yn adeilad rhestredig Gradd II*.
Oriel
golygu-
Plac, 1841
-
Golygfa o'r tu mewn, tuag at yr organ
-
Golygfa o'r tu mewn, tuag at y cefn
-
Golygfa o'r oriel
-
Y gwaith coed addurniadol o flaen yr oriel
-
Nenfwd plastr addurniadol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. Huw Owen, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.22–3
- ↑ "Plough Chapel". National Churches Trust (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Plough Welsh Independent Chapel and United Reformed Church, Lion Street, Brecon", Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2024