Aberllynfi

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref yng nghymuned Gwernyfed, Powys, Cymru, yw Aberllynfi[1][2] (Saesneg: Three Cocks). Saif ar lân ddeheuol Afon Gwy, i'r de o'r Gelli Gandryll ger cyffordd y priffyrdd A438 ac A4079. Llifa Afon Llynfi fymryn i'r gorllewin o'r pentref i ymuno ag Afon Gwy.

Aberllynfi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwernyfed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0331°N 3.2044°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO174378 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Lleolir Ysgol Uwchradd Gwernyfed yma, ac mae yma hefyd ystâd ddiwydiannol. Gerllaw y pentref mae olion Tomen Aberllynfi, castell mwnt a beili sy'n dyddio o'r 12g. Ceir bryngaer Aberllynfi Gaer yn yr ardal hefyd. Cyfyd y Mynydd Du i'r de o Aberllyfni.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-31.
  4. Gwefan Senedd y DU