Roedd Sir Thomas Moore (30 Ebrill 19202 Chwefror 2021)[1], yn fwyaf adnabyddus fel "Capten Tom" yn arwr Seisnig. Gwasanaethodd fel swyddog byddin yn yr Ail Ryfel Byd. Yn 99 oed, cododd filiynau o bunnoedd i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Enillodd y Wobr Helen Rollason yn y seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC 2020.

Capten Tom Moore
Ganwyd30 Ebrill 1920 Edit this on Wikidata
Keighley Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
o COVID-19 Edit this on Wikidata
Bedford Hospital Edit this on Wikidata
Man preswylTipp's End, Marston Moretaine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Alma mater
  • Oakbank School, Keighley Edit this on Wikidata
Galwedigaethmilwr, codwr arian, general manager, tankman, rheolwr, dyngarwr, swyddog milwrol, entrepreneur, rasiwr motobeics Edit this on Wikidata
Gwobr/au1939–45 Star, Burma Star, War Medal 1939–1945, Defence Medal, Pride of Britain Awards, Yorkshire Regiment Medal, Point of Light, Blue Peter badge, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://captaintom.org/ Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Keighley, Swydd Efrog, yn fab i'r adeiladwr Wilfred Moore a'i wraig, a oedd yn athrawes.[2]

Yn ystod y rhyfel, gwasanaethodd Tom yn India a Burma. Ar ôl gadael y fyddin, daeth yn rheolwr gyfarwyddwr cwmni. Pan ddaeth coronafirws i'r DU, penderfynodd godi arian i'r GIG. Gwnaeth recordiad o "You’ll Never Walk Alone" gyda Michael Ball.[3] Y sengl oedd rhif un yn siartiau cerddoriaeth y DU, gan ei wneud y person hynaf i ennill rhif un y DU. Capten Tom oedd y person hynaf i gyflawni rhif un yn y DU. Ym mis Gorffennaf 2020 cafodd ei urddo'n farchog gan Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.

Bu farw Capten Tom o COVID-19, yn 100 oed.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Captain Sir Tom Moore: national hero dies, aged 100". News and Star (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Chwefror 2021.
  2. Murray, Jessica (15 Ebrill 2020). "War veteran, 99, raises £6m for NHS by walking lengths of back garden". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2020.
  3. "Captain Tom Moore launches You'll Never Walk Alone charity single with Michael Ball". ITV News (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ebrill 2020.
  4. "Covid-19: Captain Sir Tom Moore dies with coronavirus" (yn Saesneg). BBC. 2 Chwefror 2021. Cyrchwyd 2 Chwefror 2021.