COVID-19
Sylw!
Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd. Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus newydd, niwmonia annodweddiadol, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | niwmonia annodweddiadol, haint coronafirws, niwmonia firal, milhaint, Virus diseases of plants, niwmonia, clefyd |
Symptomau | Peswch, y dwymyn, methiant anadlu, cur pen, myalgia, blinder meddwl, hemoptysis, dolur rhydd, diffyg anadl, lymphopenia, anaemia, anosmia, ageusia, hypoxia, oerni, gorlenwi'r trwyn, anorecsia, cyfog, llid y cyfbilen, poen yn yr abdomen, niwmonia firal, niwed ir ymennydd, deliriwm, anhwylder seicotig, enseffalitis, enanthem, anallu, thromboinflammation, neurological disorder |
Achos | Sars-cov-2 |
Dull trosglwyddo | Trosglwyddiad drwy'r aer, heintiad defnynnol, trosglwyddiad drwy gyffyrddiad, trosglwyddiad uniongyrchol, trosglwyddiad drwy chwydu, haint yn y llygad |
Dyddiad darganfod | Rhagfyr 2019 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
- Erthygl am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2 yw hon.
- Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
- Am y grŵp o erthyglau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
- Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig COVID-19.
Clefyd heintus a ddaeth i'r amlwg yn Rhagfyr 2019 yw COVID-19 sy'n fyr am "coronavirus disease 2019"; bathiad Cymraeg - y Gofid Mawr[1]. Gellir olrhain yr achos cyntaf nôl i 17 Tachwedd 2019 yn Hubei.[2] Y firws sydd wrth wraidd yr haint yw'r SARS-CoV-2, ac wrth i'r clefyd yma ymledu drwy'r byd, esgorodd ar bandemig coronafeirws 2019–20. Erbyn 30 Mehefin 2020 roedd dros 1,500 wedi marw yng Nghymru, dros 43,500 drwy wledydd Prydain a thros 505,000 yn fyd-eang.[3][4].
Canfuwyd y clefyd yn gyntaf yn 2019 yn Wuhan, Tsieina, ac ers hynny mae wedi lledaenu’n fyd-eang, gan arwain at bandemig.
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys twymyn (gorboethi, peswch ac anhawster anadlu, gyda phoen yn y cyhyrau, fflem ac fel arfer, dolur gwddf. Er bod mwyafrif yr achosion yn arwain at symptomau ysgafn, mewn rhai achosion ceir niwmonia difrifol ac organau'r corff yn methu.[5][6][7][8]
Mae cyfradd y marwolaethau allan o'r holl achosion a ddiagnosiwyd ar gyfartaledd yn 3.4%. Ceir cryn amrywiaeth, gyda 0.2% yn y rhai iau nag 20 oed, i oddeutu 15% yn y rhai dros 80 oed.[9][10] Fel arfer, mae'r haint yn cael ei ledaenu o un person i'r llall trwy ddefnynnau heintus yn cael eu hanadlu, ee drwy besychu neu disian. Mae'r amser rhwng dod i gysylltiad â symptomau a'r symptomau yn ymddangos, yn gyffredinol, rhwng dau a 14 diwrnod, gyda phum diwrnod ar gyfartaledd.[11][12]
Symptomau
golyguSymptomau | Canran |
---|---|
Twymyn | 87.9% |
Peswch sych | 67.7% |
Gorflinder | 38.1% |
Mwcws mewn poer | 33.4% |
Diffyg anadl | 18.6% |
Poen yn y cyhyrau a'r/neu'r cymalau | 14.8% |
Dolur gwddw | 13.9% |
Cur pen | 13.6% |
Oerni | 11.4% |
Teimlo'n sâl neu'n chwydu | 5.0% |
Trwyn llawn | 4.8% |
Dolur rhydd | 3.7% |
Haemoptysis | 0.9% |
cyfbilen gorlawn (Conjunctival congestion) | 0.8% |
Mae llawer yn datblygu symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys twymyn, peswch, a diffyg anadl. Yn llai cyffredin, gellir gweld symptomau anadlu fel tisian, trwyn yn rhedeg, neu ddolur gwddf. Gwelir symptomau fel cyfog, chwydu a dolur rhydd mewn nifer bychan o achosion, ac yn rhai o'r achosion cychwynnol yn Tsieina gwelwyd symptomau cardiaidd yn unig, fel tyndra'r frest a chrychguriadau (palpitations).[14] Mewn rhai achosion eithafol, gall y clefyd ddatblygu i niwmonia, methiant aml-organau, a hyd yn oed marwolaeth.
Firws | Cyfnod Deor (cyfartaledd; mewn dyddiau) |
---|---|
COVID-19 | 2-14 (amcang.) |
SARS | 2-7 |
MERS | 2-14 |
Ffliw moch | 1-4 |
Y ffliw | 7 |
Fel sy'n gyffredin â heintiau, ceir cyfnod o oedi rhwng yr adeg pan fo'r person wedi'i heintio â'r firws a'r adeg pan fyddant yn datblygu symptomau; gelwir y cyfnod hwn yn "gyfnod deori". Y cyfnod deori ar gyfer COVID-19 fel arfer yw pump i chwe diwrnod ond gall amrywio o ddau i 14 diwrnod. Gellir cymharu'r cyfnod dear hwn gyda chyfnod deor firysau eraill:[15]
Mae symptomau plant yn llawer mwynnach. Dangosodd adroddiad gan Ganolfan Tsieineaidd ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau, fod un o bob pedwar plentyn a brofodd yn bositif yn parhau heb unrhyw symptom, ar wahân i symptomau mwyn, megis peswch, 'erythema ffaryngeall' a thwymyn.[16]
Atal yr haint
golyguYmhlith y mesurau a argymhellir i atal haint mae golchi dwylo'n aml, cadw pellter oddi wrth eraill, a pheidio â chyffwrdd yr wyneb. Argymhellir defnyddio masgiau ar gyfer y rhai sy'n amau bod y firws arnynt a'r rhai sy'n rhoi gofal, ond nid y cyhoedd.[17] Nid oes brechlyn na thriniaeth gwrthfeirysol benodol ar gyfer COVID-19. Mae rheolaeth yn cynnwys trin symptomau, gofal, ynysu a mesurau arbrofol.[18][19]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ trydariad gan Dilyw 25 Mawrth 2020
- ↑ Ma, Josephine (13 Mawrth 2020). "Coronavirus: China's first confirmed Covid-19 case traced back to Tachwedd 17". South China Morning Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2020. Cyrchwyd 28 Mai 2020.
- ↑ [https://web.archive.org/web/20200407154353/https://coronaviruscymru.wales/graphs-%26-timeline Archifwyd 2020-04-07 yn y Peiriant Wayback coronaviruscymru.wale; adalwyd 7 Ebrill 2020.
- ↑ www.who.int ; adalwyd 7 Ebrill 2020.
- ↑ "Q&A on coronaviruses (COVID-19)". Cyfundrefn Iechyd y Byd. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
- ↑ Wang V (5 Mawrth 2020). "Most Coronavirus Cases Are Mild. That's Good and Bad News". The New York Times.
- ↑ "Q&A on coronaviruses". Cyfundrefn Iechyd y Byd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 27 Ionawr 2020.
- ↑ "The continuing 2019-nCoV epidemic threat of novel coronaviruses to global health – The latest 2019 novel coronavirus outbreak in Wuhan, China". Int J Infect Dis 91: 264–66. Chwefror 2020. doi:10.1016/j.ijid.2020.01.009. PMID 31953166.
- ↑ "Wuhan Coronavirus Death Rate". www.worldometers.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 2 Chwefror 2020.
- ↑ "Report 4: Severity of 2019-novel coronavirus (nCoV)" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2020. Cyrchwyd 10 Chwefror 2020.
- ↑ "Q&A on coronaviruses". Cyfundrefn Iechyd y Byd. 11 Chwefror 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 24 Chwefror 2020.
The disease can spread from person to person through small droplets from the nose or mouth which are spread when a person with COVID-19 coughs or exhales ... The main way the disease spreads is through respiratory droplets expelled by someone who is coughing.
- ↑ "Symptoms of Novel Coronavirus (2019-nCoV)". Centers for Disease Control and Prevention. 10 Chwefror 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2020. Cyrchwyd 11 Chwefror 2020.
- ↑ Cyfundrefn Iechyd y Byd. "Report of the WHO-China Joint Mission on Coronavirus Disease 2019 (COVID-19)" (PDF): 11–12. Cyrchwyd 5 Mawrth 2020. Cite journal requires
|journal=
(help) - ↑ "COVID-19 and the cardiovascular system". Nature Reviews. Cardiology. March 2020. doi:10.1038/s41569-020-0360-5. PMID 32139904.
- ↑ worldometers.info; adalwyd 19 Mawrth 2020.
- ↑ "SARS-CoV-2 Infection in Children". New England Journal of Medicine (Massachusetts Medical Society). 18 Mawrth 2020. doi:10.1056/nejmc2005073.
- ↑ "2019 Novel Coronavirus (2019-nCoV)". Centers for Disease Control and Prevention. 11 Chwefror 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2020. Cyrchwyd 15 Chwefror 2020.
- ↑ "Advice for public". Cyfundrefn Iechyd y Byd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ionawr 2020. Cyrchwyd 25 Chwefror 2020.
- ↑ "Coronavirus Disease 2019 (COVID-19)". Centers for Disease Control and Prevention. 15 Chwefror 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Chwefror 2020. Cyrchwyd 20 Chwefror 2020.