Caradog ap Meirion
Roedd Caradog ap Meirion (730? - 798?) yn frenin Gwynedd.
Caradog ap Meirion | |
---|---|
Ganwyd | 730 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 798 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Bywgraffiad
golyguCredir iddo ddilyn ei gefnder Rhodri Molwynog ap Idwal ar yr orsedd tua 754. Dywedir ei fod yn ddisgynnydd Owain Danwyn mab Einion Yrth ap Cunedda Wledig. Mae'r cyfnod yn un tywyll iawn yn hanes Gwynedd a'r dyddiadau yn ansicr.
Mae'n werth nodi mai yn ystod y cyfnod yma, yn 754, y perswadiodd Elfoddw, esgob Bangor yr eglwys Geltaidd yng Nghymru i ddilyn dull Eglwys Rufain o benderfynu ar ddyddiad y Pasg. Roedd hyn wedi bod yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy eglwys ers dros ganrif.
Yn ôl un traddodiad lladdwyd Caradog mewn brwydr yn erbyn byddin Mersia yn Eryri, ond yn ôl traddodiad arall cafodd ei lofruddio ar orchymyn Cynan Dindaethwy ap Rhodri, a ddaeth yn frenin yn ei le. Mae ansicrwydd ai Caradog ynteu Rhodri Molwynog oedd tad Hywel a ddilynodd Cynan ar yr orsedd.
O'i flaen : Rhodri Molwynog ap Idwal |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Cynan Dindaethwy ap Rhodri |