Rhodri Molwynog
brenin Gwynedd
(Ailgyfeiriwyd o Rhodri Molwynog ap Idwal)
Roedd Rhodri ap Idwal (c. 690 – c. 754; teyrnasodd o c. 720), a adwaenir fel Rhodri Molwynog yn frenin Gwynedd.
Rhodri Molwynog | |
---|---|
Ganwyd | 690 ![]() Teyrnas Gwynedd ![]() |
Bu farw | 754 ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Swydd | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Tad | Idwal Iwrch ![]() |
Plant | Cynan Dindaethwy ap Rhodri, Hywel ap Rhodri Molwynog ![]() |
Bywgraffiad
golyguYchydig o wybodaeth sydd ar gael am Rhodri. Roedd yn fab i Idwal ap Cadwaladr Fendigaid, ac felly o linach Cunedda Wledig. Cofnodir ei farwolaeth yn 754 yn y croniclau fel "Rodri rex brittonum moritur" ("Bu farw Rhodri Brenin y Brythoniaid"). Yn gynnar yn y ganrif nesaf yr oedd ei feibion Cynan Dindaethwy ap Rhodri a Hywel ap Rhodri Molwynog yn ymladd am oruchafiaeth yng Ngwynedd.
Nid oes eglurhad boddhaol o ystyr y gair "Molwynog".
Cyfeiriadau
golyguO'i flaen : Idwal Iwrch |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Caradog ap Meirion |