Einion Yrth ap Cunedda
Roedd Einion ap Cunedda (420? - 500?), a elwir gan amlaf yn Einion Yrth yn un o frenhinoedd cynharaf Gwynedd. Fe'i cysylltir hefyd â chantref Caereinion ym Mhowys.
Einion Yrth ap Cunedda | |
---|---|
Ganwyd | 420 Gododdin |
Bu farw | 500 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Cunedda |
Mam | Gwawl ferch Coel Hen |
Plant | Cadwallon Lawhir, Meirian ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig ab Brenin Prydain, Owain Ddantgwyn |
Hanes a thraddodiad
golyguRoedd Einion yn fab i Gunedda Wledig, a chredir iddo ddod i Wynedd o'r Hen Ogledd (yn ne'r Alban heddiw) gyda'i dad rywbryd cyn 450 i ymladd yn erbyn y Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu yno. Wedi marwolaeth Cunedda, efallai tua 460, Einion a etifeddodd y diriogaeth a fyddai'n datblygu i fod yn deyrnas Gwynedd.
Yn ôl y traddodiad roedd ganddo saith o frodyr; rhoddodd ei frawd Ceredig ei enw i Geredigion, a'i nai Meirion, mab ei frawd Tybion, ei enw i Feirionnydd (mae nifer o ysgolheigion yn credu erbyn heddiw mai ymgais i esbonio'r enwau lleol yw'r traddodiad am hynny). Y brodyr eraill oedd Rhufon (sefydlydd Rhufoniog), Dunod (Dunoding), Aflog (Aflogion yn Llŷn), Dogmael (Dogfeiling), ac Edern (Edeirnion).
Sefydlodd Einion gantref Caereinion ym Mhowys. Prif ganolfan eglwysig y cantref oedd Llanfair Caereinion. Gerllaw ceir hen amddiffynfa Caereinion a gysylltir, yn ôl traddodiad, ag Einion Yrth.
Roedd Einion yn dad i'r brenin Cadwallon Lawhir o Wynedd ac yn daid trwyddo i'r brenin Cynlas (efallai), a grybwyllir gan Gildas fel teyrn "paganaidd" a wrthododd dderbyn Cristnogaeth. Yn ôl un o'r Achau traddodiadol, roedd yr arwr Gwgon Gleddyfrudd yn fab iddo, ond nid oes sicrwydd am hynny.
Llyfryddiaeth
golygu- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). D.g. Cunedda.
- M.P. Charlesworth, The Lost Province (Darlithoedd Gregynog, 1948, 1949)
- J. E. Lloyd, History of Wales to the Edwardian conquest (3ydd arg., Llundain, 1939)
O'i flaen : Cunedda Wledig |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Cadwallon Lawhir |