Mae Hen Garchar Sir Fynwy yn adeilad sy'n perthyn i'r 18g ac sydd wedi'i leoli yn North Parade, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru. Dyma oedd prif garchar y sir pan agorwyd ei ddrysau cadarn yn 1790.[1] Edrychai'n debyg i gaer canoloesol ond mai ei bwrpas oedd cadw pobl o'i fewn ac nid eu cadw allan. Arferid crogi drwgweithredwyr yma hyd at y 1850au; yn wir daeth cymaint â 3,000 o bobl yma i wylio'r crogi diwethaf.[2]

Carchar Trefynwy
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1790 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.81703°N 2.71358°W Edit this on Wikidata
Map
Cost5,000 punt sterling Edit this on Wikidata

Roedd arwynebedd y carchar yn arfer bod tua thair erw ac roedd yn cynnwys capel, ysbyty, celloedd a melin-droed.[2] Caewyd y drysau am y tro diwethaf yn 1869.[3] Yn 1884 dymchwelwyd llawer o'r adeiladau, ac nid oes bellach namyn y porthdy hwn (neu'r gatehouse)[3] sydd yn adeilad rhestredig Gradd II. Oddi fewn i'r adeilad ceir darlun gwydr o'r hen garchar.[1]

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 J. Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (Penguin Books, 2000), t.407
  2. 2.0 2.1 "Monmouth Gaol". Royal Forest of Dean.info. Cyrchwyd 14 Mawrth 2012.
  3. 3.0 3.1 Gwefan Coflein Archifwyd 2014-05-12 yn y Peiriant Wayback., Royal Commission on Ancient and Historic Monuments in Wales, adalwyd 06 Ebrill 2012
  • J. Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (Penguin Books, 2000)