Neuadd y Sir, Trefynwy

llys barn rhestredig Gradd I yn Nhrefynwy

Mae Neuadd y Sir, Trefynwy yn adeilad a gofrestrwyd oherwydd ei werth hanesyddol fel gradd 1.[1] Cafodd ei adeiladu yng nghanol y dref yn 1724 fel llys barn ar gyfer Sir Fynwy. Dyma leoliad achos llys y Siartydd mawr John Frost ac eraill am deyrnfradwriaeth am eu rhan yn nherfysg Casnewydd. Wedi hynny, defnyddiwyd yr adeilad fel marchnad anifeiliaid.

Neuadd y Sir
Mathllys barn Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1724 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1724 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr24.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.812°N 2.71536°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3EA Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolBaróc Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddBath Stone Edit this on Wikidata

Perchennog yr adeilad, bellach, ydy Cyngor Sir Fynwy ac mae'r lle'n agored i ymwelwyr. Mae yma hefyd ganolfan ymwelwyr a swyddfa Cyngor y Dref.

Caewyd y Llys Ynadon yn 197 a Llys y Goron yn 2002. Gwnaeth Gyngor Sir Fynwy gais llwyddiannus i'r Heritage Lottery Fund am y swm o £3.2, gydag un filiwn ychwanegol yn cael ei roi gan y Cyngor Sir. Mae'r llys yn agored i'r cyhoedd.

Cerflun o Harri V, brenin Lloegr golygu

Saif cerflun o Harri V, brenin Lloegr (9 Awst neu 16 Medi 1387 – 31 Awst 1422) ar fur ffrynt y neuadd: uwch y brif fynedfa, gyda chloc y dref yn union uwch ei ben. Yn ôl llawer, hen gerflun digon tila ydy o a chaiff ei ddisgrifio fel: "rather deplorable", a "pathetic..like a hypochondriac inspecting his thermometer"[2]. Cafodd ei ychwanegu yn 1792 gan Charles Peart i gofio'r ffaith i'r brenin gael ei eni yng nghastell y dref. Mae'r ysgrifen ar bedestal y cerflun yn darllen: HENRY V, BORN AT MONMOUTH, AUG 9TH 1387. Gwyddys, bellach, fodd bynnag fod y dyddiad geni hwn yn anghywir.[3]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu