Cardiff Laboratory Theatre
Cwmni theatr dylanwadol Gymreig yng Nghaerdydd o'r 1970au a'r 1980au oedd y Cardiff Laboratory Theatre neu Cardiff Lab. "Un o gwmnïau theatr mwyaf arloesol Cymru yn ystod y 1970au," yn ôl Roger Owen yn ei gyfrol academaidd Ar Wasgar. Sefydlwyr y cwmni oedd Mike Pearson a Richard Gough ym 1974. Bu'r cwmni yn ysbrydoliaeth i greu cwmnïau theatr newydd Cymraeg fel Brith Gof, Cwmni Cyfri Tri a Theatr Crwban ar gychwyn y 1980au.[1] Cafodd y cwmni ei sefydlu a'i ddylanwadu gan athroniaeth theatr Jerzy Grotowski. Daeth i ben ym 1988.[2]
Enghraifft o'r canlynol | cwmni o actorion, endid a fu |
---|---|
Daeth i ben | 1988 |
Crëwr | Richard Gough a Mike Pearson |
Gwlad | Cymru |
Cysylltir gyda | Brith Gof |
Dechrau/Sefydlu | 1974 |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cefndir
golyguDau Sais, sef Richard Gough a Mike Pearson, a sefydlodd y Cwmni ym 1974.[3]
"Er iddo arddel enw'r brifddinas yn ei deitl, nid oedd nemor ddim yng nghynyrchiadau'r [Cardiff] Lab a adlewyrchai'r ffaith mai yng Nghymru y lleolwyd y cwmni", yn ôl Roger Owen; "...meddai'r un arddull a'r un diddordebau â'r lliaws o gwmnïau eraill ar draws Ewrop a'r Unol Daleithiau a gâi eu hysbrydoli a'u hysgogi gan Teatr-Laboratorium Grotowski."[1]
"Fodd bynnag, daeth tro ar fyd ym 1978, pan ymaelododd Lis Hughes Jones â'r cwmni. Bu ei dyfodiad hithau yn arbennig o arwyddocaol am mai hi oedd y cyntaf ymhlith aelodau'r cwmni a fedrai'r Gymraeg, ac am fod ganddi ddiddordeb effro mewn traddodiadau diwylliannol gwledig a'r 'pethe' Cymraeg yn gyffredinol. Yn sgil ei dyfodiad, ysgogwyd trafodaeth frwd o fewn y cwmni am natur ac arwyddocâd ei waith a'i berthynas â'r gynulleidfa Gymraeg. Darbwyllwyd nifer o'r aelodau - yn enwedig Mike Pearson, un o sylfaenwyr y cwmni - y dylai'r Lab newid cyfeiriad, a gweithio'n agosach o lawer at y gymdeithas Gymraeg frodorol yng ngorllewin a gogledd Cymru; ac, i'r perwyl hwnnw, creodd y cwmni gyfres o ddigwyddiadau theatraidd rhwng 1979 a 1981 yn trafod traddodiad a hunaniaeth ddiwylliannol y Cymry Cymraeg. Roedd y gweithiau hyn yn allweddol bwysig wrth fraenaru'r tir ar gyfer sefydlu Brith Gof."[1]
Cynyrchiadau nodedig
golygu- Maskarade (1977)
- Blodeuwedd (1979) cynhyrchiad awyr agored ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979. Addasiad corfforol o chwedl Branwen. Cyfarwyddwr Mike Pearson; cast myfyrwyr drama Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0 7083 1793 6.
- ↑ "1974 – 1988, Cardiff Laboratory Theatre". Performance Books (yn Saesneg). 2011-01-26. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ "Cardiff Laboratory Theatre". Oxford Reference (yn Saesneg). doi:10.1093/oi/authority.20110803095549360. Cyrchwyd 2024-09-22.