Cwmni theatr Gymraeg yn y 1980au oedd Cwmni Cyfri Tri. Sefydlwyd y cwmni gan Jeremy Turner, Sera Moore Williams a Christine Watkins ar ôl cydweithio ar sioe theatr ym 1979.[1] Daeth y cwmni i ben drwy uno gyda Theatr Crwban i greu Theatr Arad Goch ym 1989. Un o'r prif resymmau dros greu'r cwmni oedd i herio gweledigaeth Cwmni Theatr Cymru. Yn ôl Roger Owen, honnai'r cwmni bod "...eu diddordeb yn y theatr yn bur wahanol i'r rhelyw a weithiai trwy gyfrwng y Gymraeg ar ddechrau'r 1980au."[1]

Cwmni Cyfri Tri
Dyddiad cynharaf1979
GwladBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaArad Goch
Daeth i ben1989
LleoliadAberystwyth

"Nid ymddiddorent yn y math o theatr led-realaidd a gyflwynasid gan y rhan fwyaf o gwmnïau, ac nid ystyrient eu hunain yn ddilynwyr unrhyw draddodiad brodorol o theatr neu ddrama. Yn hytrach mynnent mai eu priod waith oedd creu 'iaith theatraidd newydd' a roddai'r lle mwyaf blaenllaw i weithgarwch corfforol yr actor", ychwanegodd.[1]

Cefndir

golygu

"Dylanwadwyd yn drwm ar y [cwmni] [...] gan weithgarwch Cardiff Laboratory Theatre", yn ôl Roger Owen yn ei gyfrol academaidd Ar Wasgar.[1] Disgrifiai Owen y cwmni hwnnw fel "un o gwmnïau theatr mwyaf arloesol Cymru yn ystod y 1970au."[1] "Egin-aelodau Brith Gof a fu'n cynnal Cardiff Lab am flynyddoedd, a symbylwyd aelodau Cwmni Cyfri Tri i weithio'n broffesiynol yn y theatr ar ôl iddynt gymryd rhan mewn prosiect dan nawdd y Lab ym 1979. Elfen arall a ddygai'r ddau gwmni at ei gilydd oedd y ffaith eu bod yn dymuno creu theatr a oedd yn flaengar a herfeiddiol o ran techneg ond a oedd hefyd yn hygyrch a chynhenid Gymreig ei naws."[1]

"Buont [...] yn ysgogiad tra phwysig i Gwmni Cyfri Tri, am mai yn un o gynyrchiadau Cymraeg Cardiff Lab y daeth sylfaenwyr y cwmni hwnnw at ei gilydd fel partneriaid creadigol am y tro cyntaf. Cyflwynwyd y cynhyrchiad hwnnw yn yr awyr agored ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979. Fersiwn corfforol o chwedl Blodeuwedd oedd y sioe, a gyfarwyddwyd gan Mike Pearson, ac a gyflwynwyd gan gwmni a gynhwysai (ymysg eraill) nifer o fyfyrwyr drama Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ymhlith y myfyrwyr hyn, yr oedd egin-sylfaenwyr Cwmni Cyfri Tri, sef Christine Watkins, myfyrwraig MA, Sera Moore-Williams, a oedd ar fin dechrau ar ei blwyddyn olaf yn y coleg, a Jeremy Turner, a oedd newydd raddio. Bu'r profiad o gydweithio â Cardiff Lab yn agoriad llygad i'r tri ohonynt."[1]

Gwarchod y Môr oedd eu cynhyrchiad cyntaf yn Chwefror 1980.

Ynghanol y 1980au, penderfynodd y cwmni newid trywydd gan ganolbwyntio'n fwy fwy ar gynyrchiadau i blant a phobl ifanc.

Erbyn diwedd y 1990au, "roedd cwmpas gwaith ac arddull theatraidd Brith Gof a Chwmni Cyfri Tri / Arad Goch mor wahanol fel mai o'r braidd y gellid dirnad y cyswllt â fu rhyngddynt yn ystod y blynyddoedd cynnar."[1]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0 7083 1793 6.
  2. "Cellwair". Golwg cyfrol 1 rhif 2. 15 Medi 1988.