Carl Morris

ymgyrchydd iaith, haciwr a datblygydd gwe proffesiynol o Gaerdydd

Ymgyrchydd iaith, haciwr a datblygydd gwe proffesiynol yw Carl Morris, sy'n enw blaenllaw ym myd technoleg Cymraeg. Fe'i magwyd yng Nghaerdydd lle mynychodd Ysgol Uwchradd Canton rhwng 1992 a 1999. Sefydlodd a chyd-sefydlodd nifer o ymgyrchoedd a mudiadau megis Hacio'r Iaith (Tachwedd 2009) a bu'n lladmerydd amlwg dros ddatganoli darlledu yn y 2010au. Yn ei lyfr Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg, dywed yr Athro Simon Brooks fod "y datblygwr gwe Carl Morris, aelod pwysig o Gymdeithas yr Iaith, a golygydd @CymryTseiniaidd cyfri Twitter... o gefndir Tseiniaidd."[1]

Carl Morris
GanwydCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethymgynghorydd TG, datblygwr gwefanau Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://morris.cymru Edit this on Wikidata

Rhwng Hydref 2009 a Thachwedd 2017 bu Carl Morris yn un o bartneriaid cwmni TG NativeHQ.[2] Roedd yn gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith yn y 2010au a'r 2020au. Ar yr un pryd, yn y 2010 cynnar, roedd ar banel ymgynghorol technoleg gwybodaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n parhau fel ymgonghorydd technoleg llawrydd llawn amser yn 2023 ac ers Ionawr 2016 mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol O'R PEDWAR GWYNT CYF.[3] Fel awdur gwe, mae'n rheoli sawl gwefan gan gynnwys fel Hedyn, Blogiadur a Morris.cymru.[4] Mae Hedyn yn wefan lle gellir rhannu unrhyw ddolenni, gwybodaeth a chael trafodaeth) am ddatblygiadau technolegol, Cymraeg, ar-lein.

Rosemary Butler (Llefarydd y Senedd) yn croesawu arbenigwyr TG byd-eang yn y Senedd ym Mai 2013. Carl Morris yw'r un ar y chwith

Cymuned o ddatblygwyr proffesiynol ac amatur yw Hacio'r Iaith, a gyd-sefydlwyd gan Carl Morris, datblygwyr TG sy'n dod ynghyd i drin a thrafod y berthynas rhwng y Gymraeg a thechnoleg ac i ddatblygu syniadau ar sut gall yr iaith fanteisio ar dechnoleg.[5]

Yn 2020 galwodd, ar ran Cymdeithas yr Iaith, am sefydlu mudiad newydd, y Fenter Ddigidol Gymraeg, sef corff newydd i greu cynnwys a phrofiadau technolegol: popeth Cymraeg ar lein.[6][7]

Meddalwedd golygu

 
Cyfarfod cyntaf golygyddion Wicipedia Cymraeg; Awst 2012. Yn y llun gwelir Carl Morris (yr agosaf at y camera) yn trafod golygu Wicipedia gyda golygyddion eraill.

Mapio Cymru golygu

Carl Morris yw datblygwr gwe Mapio Cymru, prosiect sy'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r map cynnwys agored hwn yn hwyluso'r gwaith o rannu enwau llefydd Cymraeg sy'n defnyddio cod agored OpenStreetMap a Wicidata. Fel y gwelir o'r prif fap yma, a'r map drafft ar weinydd Morris, mae'n ddull hwylus i fewnbynnu enwau mewn achosion lle mae'r data'n anghyflawn.

Wicipedia golygu

Yn Rhagfyr 2016, comisiynodd Wikimedia UK Carl i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Sgwennwyd y bots mewn PHP (iaith gyfrifiadurol) i bostio'r cyfan yn awtomatig, yn ddyddiol. Ymhlith y bots a grewyd ganddo y mae:

  • @wicipedia - sy'n trydar sylw i erthyglau newydd
  • #unigrywunigryw - sy'n trydar ar hap erthyglau nad ydynt ar gael mewn unrhyw iaith arall[8]
  • Menywod Mewn Coch - a ddaeth i ben pan gyrrhaeddodd y Wicipedia Cymraeg uchafbwynt byd-eang, gyda mwy o erthyglau ar fenywod nag ar ddynion.

Personol golygu

Mae Carl yn briod ac mae ganddynt ddau o blant.

Cyfeiriadau golygu

  1. amazon.co.uk; adalwyd 11 Ionawr 2023.
  2. [httôrl/ nativehq.com;] adalwyd 11 Ionawr 2023.
  3. Cyfrif LinkedIn Carl Morris; adalwyd 11 Ionawr 2023.
  4. hedyn.net; adalwyd 12 Ionawr 2023.
  5. hedyn.net; teitl: Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2013; adalwyd 12 Ionawr 2023.
  6. morris.cymru; teitl: y Fenter Ddigidol Gymraeg; adalwyd 12 Ionawr 2023.
  7. cymdeithas.cymru; teitl: Menter Ddigidol Gymraeg; adalwyd 12 Ionawr 2023.
  8. gwefan swyddogol morris.cymru; adalwyd 11 ionawr 2023.