Wicipedia:WiciBrosiect MenywodMewnCoch

Croeso cynnes iawn i brosiect MenywodMewnCoch!

Nod ac amcanion golygu

 

Nod y WiciBrosiect hon yw i wella cynrychiolaeth menywod ar Wicipedia Cymraeg a Wicidata.

O fewn rhinweddau'r prosiect mae bywgraffiadau o fenywod a gweithiau gan fenywod, ein hamcanion yw:

  • newid dolenni coch i ddolenni glas
  • ychwanegu mwy o fanylion at erthyglau, ac ehangu a gwella'r cynnwys

Pa fenywod? golygu

Mae hyn yn cynnwys menywod o Gymru a thu hwnt o'r meysydd isod:

  • gwyddoniaeth
  • celfyddydau
  • ymgyrchu
  • academia
  • technoleg
  • gwleidyddiaeth

neu unrhyw faes arall o gwbl!

Defnyddwyr golygu

Rydyn ni'n grŵp o ddefnyddwyr cyffredin sydd wedi sylwi bod angen gwella presenoldeb menywod ar Wicipedia Cymraeg a Wicidata, ac mae croeso cynnes i chi gymryd rhan gyda ni.

Os ydych chi am gymryd rhan yn y prosiect, gallwch ymuno'n swyddogol trwy glicio ar y blwch ar frig y ddalen hon, ar y dde.

Mae croeso i chi ychwanegu ein templed {{Defnyddiwr WikiBrosiect MenywodMewnCoch}} i'ch tudalen hefyd, er mwyn creu:

  Aelod o brosiect MenywodMewnCoch.


Dolenni coch golygu

Mae unrhyw ddolen goch ar Wicipedia yn dynodi bod angen creu erthygl.

Dyma rai syniadau os ydych chi'n chwilio am enghreifftiau o ddolenni coch. Mae pob un yn gyfle i greu erthygl:

Cymru/Cymreig golygu

 

Byd-eang golygu

Hanes y prosiect golygu

Dechreuodd MenywodMewnCoch fel ymgyrch fach gyda'r hashnod #MenywodMewnCoch ar Twitter. Fe rannwyd syniadau am erthyglau newydd i'w creu, trwy gyfrif @wicipedia.

Yn ystod yr ymdrech fe grëwyd erthyglau Cymraeg newydd sbon am:

Yn 2019 mae'n bryd i ni greu prosiect amlwg fel y rhai yn Ffrangeg, Saesneg, ac rhai ieithoedd eraill. Felly dyma ni!

Beth nesaf? golygu

Tra bydd y prosiect yn tyfu ac esblygu bydd nodiadau ar y dudalen hon.

Dilynwch @MenywodMewnCoch ar Twitter am ddiweddariadau.