Carlo Collodi
awdur Eidalaidd
Llysenw llenyddol Carlo Lorenzini, awdur a newyddiadurwr o'r Eidal, yw Carlo Collodi (24 Tachwedd 1826 – 26 Hydref 1890), sy'n adnabyddus am ei nofel i blant Le avventure di Pinocchio.
Carlo Collodi | |
---|---|
Ffugenw | Carlo Collodi |
Ganwyd | Carlo Lorenzini 24 Tachwedd 1826 Fflorens |
Bu farw | 26 Hydref 1890 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal, Uchel Ddugiaeth Toscana, United Provinces of Central Italy, Brenhiniaeth Sardinia |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant, newyddiadurwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | I racconti delle fate, Giannettino, Minuzzolo, Le avventure di Pinocchio, Il Lampione |
Arddull | llenyddiaeth plant |
Gwefan | https://www.carlocollodi.it |
Fe'i ganwyd yn Fflorens. Mae ei ffugenw yn deillio o bentref Collodi, rhwng Lucca a Pistoia. Ganwyd ei fam yno a threuliodd Collodi ei hun ran helaeth o'i blentyndod yno hefyd. Yn ogystal â'i waith fel awdur ffuglen, llyfrau ffeithiol, dramâu a straeon plant, bu hefyd yn newyddiadurwr. Bu ganddo ran yn y Risorgimento a arweiniodd at uno'r Eidal, a gwasanaethodd fel gwirfoddolwr ym myddin Toscana yn ystod y ddau ryfel annibyniaeth yr Eidal (1848, 1859). Bu farw yn 63 oed yn Fflorens, ei dref enedigol.