Mudiad diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol yn yr Eidal yn y 19g oedd y Risorgimento (yn llythrennol, "yr Adfywiad"). Uno'r Eidal fel gwladwriaeth oedd ei nod – nod a gyflawnodd yn y pen draw. Roedd y mudiad yn arddel delfrydau rhamantaidd, cenedlaetholgar a gwladgarol a oedd yn dyheu am ddychweliad i undod gwleidyddol a gollwyd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn y 5g.

Risorgimento
Math o gyfrwngmudiad gwleidyddol, mudiad cymdeithasol, cyfnod o hanes, uno gwleidyddol Edit this on Wikidata
Dyddiad1815 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1815 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1871 Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Eidal Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas yr Eidal, Teyrnas Sardinia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Erbyn dechrau'r 19g roedd Penrhyn yr Eidal yn glytwaith o daleithiau a oedd i raddau mwy neu lai o dan reolaeth dramor neu gan y Pab. Enillodd y mudiad dros uno momentwm ar ôl cwymp Napoleon a Chyngres Fienna (1814–15). Sefydlwyd Giovine Italia, mudiad gweriniaethol chwyldroadol, gan Giuseppe Mazzini yn 1831. Ym 1848 bu gwrthryfeloedd yn Sisili, Milan, Fenis a Thaleithiau'r Babaeth. Dilynwyd y rhain gan Ryfel Annibyniaeth Cyntaf yr Eidal (1848–9) ac Ail Ryfel Annibyniaeth yr Eidal (1859) lle chwaraeodd Giuseppe Garibaldi ran allweddol.

Cyrhaeddodd y gweithgaredd gwleidyddol a milwrol hwn ei anterth pan gyhoeddwyd Teyrnas yr Eidal ar 17 Mawrth 1861 â Vittorio Emanuele II yn frenin. Parhaodd y broses o uno pan ymgorfforwyd y Veneto yn 1866 a daeth i ben ar ôl cipio Rhufain a'r Taleithiau Pabaidd ar 20 Medi 1870.

Llyfryddiaeth

golygu