Le avventure di Pinocchio
Nofel i blant yn yr iaith Eidaleg gan Carlo Collodi (1826–1890) yw Le avventure di Pinocchio. Mae'n adrodd hanes anturiaethau pyped direidus o'r enw Pinocchio a'i dad, cerfiwr coed tlawd o'r enw Mastro Geppetto, sy'n dod ar draws llu o gymeriadau cofiadwy eraill.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Carlo Collodi |
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1883 |
Dechrau/Sefydlu | 7 Gorffennaf 1881 |
Genre | stori dylwyth teg, stori plant |
Cymeriadau | Pinocchio, Y Morgi Brawychus, Y Gyrrwr Coets, Lucignolo, Y dylwythen deg â gwallt glasfaen, Y Gath a'r Blaidd, Mangiafuoco, y Criciedyn sy'n Siarad, Mastro Geppetto, Y Pysgotwr Gwyrdd |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Toscana |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Erthygl am y nofel gan Carlo Collodi yw hon. Gweler hefyd Pinocchio (gwahaniaethu).
Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel stori cyfres o dan y teitl La storia di un burattino ("Stori pyped") yn y Giornale per i bambini ("Papur newydd i blant"), un o'r cylchgronau wythnosol Eidalaidd cynharaf i blant, gan ddechrau o 7 Gorffennaf 1881. Daeth y stori i ben ar ôl bron i bedwar mis ond cychwynnodd eto ar 16 Chwefror 1882 ar ôl i ddarllenwyr fynnu cael rhagor. Cyhoeddwyd y stori mewn un gyfrol ym mis Chwefror 1883. Derbyniodd y llyfr adolygiadau brwd ac mae wedi aros mewn print byth ers hynny. Mae wedi'i gyfieithu i dros 300 o ieithoedd.
Mae'r stori'n llawn cymeriadau cryf, trawsnewidiadau hudol, a thema foesol bwerus. Yn aml, dehonglir y pyped Pinocchio fel ffigwr sy'n cynrychioli'r cyflwr dynol. Ystyrir y llyfr yn gampwaith o lenyddiaeth plant ac wedi cael effaith fawr ar ddiwylliant y byd. Mae wedi ysbrydoli cannoedd o addasiadau, dramâu llwyfan, marsiandïaeth, cyfresi teledu a ffilmiau, fel fersiwn animeiddiedig Walt Disney o 1940.
Gweler hefyd
golygu- Yr Hogyn Pren, addasiad Cymraeg o Le avventure di Pinocchio gan E. T. Griffiths
Dolen allanol
golygu- Le avventure di Pinocchio, testun gwreiddiol ar Wicidestun Eidaleg