Carlos Martínez Moreno
Nofelydd, ysgrifwr, beirniad llenyddol, a golygydd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Carlos Martínez Moreno (1 Medi 1917 – 21 Chwefror 1986) a oedd yn aelod o La Generación del 45.
Carlos Martínez Moreno | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1917 Colonia del Sacramento |
Bu farw | 21 Chwefror 1986 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, cyfreithiwr, newyddiadurwr, ysgrifennwr |
Ganwyd yn Colonia del Sacramento, Wrwgwái. Yn y 1960au fe olygydd yr ail gyfres o'r cylchgrawn llenyddol Número.
Nodir ei waith gan fydolwg besimistaidd ynghylch perthnasau dynol a chynnydd cymdeithasol. Defnyddiodd gyfeiriadau rhyngdestunol yn ei ffuglen, a chyfeiriadau dychanol at arlunwyr a llenorion eraill. Ysgrifennodd ysgrifau am Montevideo, La Generación del 900, yr avant-garde yn llên America Ladin, a beirniadaeth theatr.[1]
Bu farw yn Ninas Mecsico yn 68 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Daniel Balderston, "Martínez Moreno, Carlos" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 342.
Darllen pellach
golygu- K. V. Stone, Utopia Undone: The Fall of Uruguay in the Novels of Carlos Martínez Moreno (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 1994).